Cwm Taf Morgannwg: Tynnu gwasanaeth mamolaeth o fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd merch Liz McClean brofiad hunllefus yn rhoi genedigaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Mae gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi eu tynnu o fesurau arbennig.

Daw hynny dair blynedd ar ôl i adolygiad annibynnol ddod i'r casgliad y gallai marwolaethau babanod fod wedi eu hosgoi.

Cafodd cyfres o wallau eu datgelu gan y panel, gan gynnwys bod triniaeth menywod wedi ei effeithio.

Ddydd Llun fe ddywedodd y gweinidog iechyd bod cynnydd wedi ei wneud yn holl wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y gwasanaethau'n cael eu newid i fod dan "ymyrraeth wedi ei thargedu".

Dywedodd y bwrdd iechyd na wnawn nhw fyth anghofio camgymeriadau'r gorffennol, ond eu bod yn hyderus bod y gofal sy'n cael ei ddarparu'n "ddiogel, yn broffesiynol ac o'r safon uchaf".

Beth ddigwyddodd yn yr ysbytai?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd achosion yn Ysbyty Tywysog Siarl sylw gan y panel

Fe ddaeth y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth o hyd i fethiannau difrifol mewn 21 o 63 o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful.

Fe ddigwyddodd yr achosion rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018.

Mewn 37 achos arall, dywedodd yr adolygiad y gallai un neu'n rhagor o fân gamgymeriadau fod wedi diwgydd.

Dywedodd yr adroddiad y gallai gwersi gael eu dysgu o 48 o achosion.

Dim ond mewn pedwar achos y daeth y panel i gasgliad na ddylai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud yn wahanol.

'Dal lle i wella'

Mewn datganiad, dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan y bydd "dal angen peth trosolwg a chefnogaeth, yn enwedig ar wasanaethau babanod newyddanedig, sydd yn dal â pheth ffordd i fynd i wella".

"Dan ymyrraeth wedi ei thargedu, byddwn yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud a'u cyflwyno yn ymarferol."

Bydd gwaith y panel trosolwg, gafodd ei arwain gan Mick Giannasi sy'n gyn-gwnstabl Heddlu Gwent, yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth y gweinidog iechyd ddiolch i staff a theuluoedd gan bwysleisio fod y panel yn credu bod y "gwasanaeth mamolaeth yn teimlo'n wahanol o'i gymharu â gwasanaethau ac amodau yn 2019".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Suzanne Hardacre, cyfarwyddwr nyrsio a bydwragedd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ei bod yn "falch o gasgliadau adroddiad diweddaraf y panel" yn ogystal â'r "cydnabyddiaeth o ba mor bell ry'n ni wedi dod".

"Dros y tair blynedd a hanner diwethaf mae'n timau yn y gwasanaethau newyddanedig a mamolaeth wedi dangos ymrwymiad anhygoel i'n siwrnai o wella ac i wneud newid positif i'n teuluoedd.

"Mae adroddiad heddiw [dydd Llun] yn dangos yn glir y cynnydd ry'n ni wedi ei wneud.

"Fodd bynnag, ry'n ni hefyd yn cydnabod fod hon yn siwrnai o gynnydd parhaus, ac mae 'na fwy o waith i'w wneud.

"Mae menywod a theuluoedd wastad wedi bod yn ganolog i'n hysfa i wella, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i wrando, dysgu a gwella o'u profiadau.

"Ry'n ni'n gwybod bod babanod a theuluoedd newydd o fewn CTM [Cwm Taf Morgannwg] yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, a thra gwnawn ni fyth anghofio camgymeriadau'r gorffennol, ry'n ni'n hyderus bod y gofal ry'n ni'n parhau i'w roi i'n cymunedau yn ddiogel, yn broffesiynol ac o'r safon uchaf."

Mae'r newyddion wedi ei groesawu gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Ond dywedodd nad oes modd "anghofio'r trawma a wynebodd gymaint o deuluoedd oherwydd beth oedd yn wasanaeth diffygiol".

Galwodd am "ddysgu gwersi o'r trawma a'r methiannau yna".