Jambori: Plant Sir y Fflint yn canu Yma o Hyd
Daeth bron i chwarter miliwn o blant at ei gilydd ar draws Cymru ddydd Iau i gymryd rhan mewn jambori arbennig i ddathlu llwyddiant tîm Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd.
Wedi ei drefnu gan Urdd Gobaith Cymru, roedd yr ŵyl rithiol yn cynnwys disgyblion o 1,071 o ysgolion ar draws Cymru.
Ymysg yr ysgolion rheiny oedd Ysgol Cae'r Nant yng Nghei Connah, lle roedd 'na fôr o ganu.