Ysgolion Cymru yn uno mewn jambori cyn Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion Pen Barras
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dosbarthiadau Ysgol Pen Barras yn Rhuthun yn morio canu fore Iau

Mae bron i chwarter miliwn o blant ar draws Cymru wedi dod ynghyd yn rhithiol i gymryd rhan mewn jambori arbennig i ddathlu tîm Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd.

Fe ddaeth miloedd o ysgolion ar draws y wlad at ei gilydd i ganu rhai o anthemau'r bencampwriaeth gan gynnwys Yma o Hyd.

Mae'r jambori wedi ei drefnu gan Urdd Gobaith Cymru ac yn cynnwys disgyblion o 1,071 o ysgolion ym mhob rhan o Gymru.

Yn ôl Prif Weithredwr y mudiad Sian Lewis, does dim un wlad arall wedi llwyddo i ddod â gymaint o blant ynghyd i ddathlu'r tîm cenedlaethol.

'Rhai yn cofio cyffro Euro 2016'

Bydd caneuon fel 'Aderyn Melyn' a 'Dewch â Cwpan Adre'n ôl' yn cael eu canu gan blant Cymru sydd oll yn gwisgo coch i ddathlu.

Yn Ysgol Pen Barras, Rhuthun, mae disgyblion wedi bod yn ymarfer ar gyfer y jambori ers wythnosau a'r dosbarth wedi ei addurno ar gyfer y diwrnod.

"Mae'r plant 'di bod yn gweithio'n galed iawn a phawb wedi bod yn edrych ymlaen," meddai pennaeth yr ysgol, Ffion Hughes.

"Mae 'na fwrlwm, cyffro rownd y lle at y jambori a Chwpan y Byd.

"Be sy'n neis ydy bod rhai o'r plant yn cofio'r cyffro adeg yr Ewros 2016 a rhai eraill ddim, felly ma'n neis gallu ennyn brwdfrydedd tîm Cymru."

Grey line

Mae'r jambori wedi cyrraedd tu hwnt i Gymru hefyd.

Roedd Michael Downey, sy'n athro yn Ysgol Gynradd Griffin yn ardal Wandsworth yn Llundain, yn awyddus i blant yr ysgol ddysgu Yma o Hyd ar gyfer y digwyddiad.

Darllenwch y stori'n llawn yma a gwyliwch y fideo isod

Disgrifiad,

Disgyblion blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Griffin, Llundain, yn canu Yma o Hyd

Grey line

'Nôl yn Rhuthun, mae disgyblion Ysgol Pen Barras wedi mwynhau y profiad o ganu gyda miloedd o blant o bob pegwn o'r wlad.

"Dwi'n gobeithio 'neith nhw ennill a dwi eisiau iddyn nhw wneud eu gorau glas," meddai Megan ym mlwyddyn 6 wrth siarad am y garfan.

Osian, Deio, Megan ac Ela
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian, Deio, Megan ac Ela'n edrych ymlaen i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

Yn ôl Deio, mae'n poeni a fydd y chwaraewyr yn gallu ymdopi â haul Qatar gan fod Cymru yn lle "oer", ond yn mynnu fydd y tîm yn iawn.

"Dwi hefyd yn hoffi y ffaith fod gymaint o chwaraewyr ifanc y tîm yn cael cyfle," meddai.

Yn eu gwisgoedd coch, roedd Ela ac Osian hefyd yn dymuno pob lwc i'r tîm ac yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau y profiad o ganu yn arw.

Disgrifiad,

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022 - wedi ei chyhoeddi gan blant y Rhondda!

Fel rhan o'r digwyddiad mi fuodd negeseuon yn cael eu rhannu gan rhai o fawrion y tîm cenedlaethol a'r prif weinidog, Mark Drakeford.

Bu Dafydd Iwan hefyd yn ymuno'n rhithiol i arwain canu ei gân adnabyddus - a chân swyddogol tîm Cymru ar gyfer Qatar - 'Yma o Hyd'.

Fe gafodd y digwyddiad sylw hefyd ar draws rhaglenni BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC 5 Live.

'90% o ddisgyblion cynradd yn canu'

Yn ôl Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd roedd y digwyddiad yn "gyffrous tu hwnt".

"230,000 o blant Cymru - rhyw 1,071 o ysgolion - 'dan ni'n troi Cymru yn goch yma yng Ngwlad y Gân!

"Mae 'na ganeuon wedi eu dysgu i'r oedran cynradd, rhai hwyliog, yn addas i blant iaith gyntaf ac ail iaith.

"Yn gyfle i bawb ymuno mewn," meddai.

"Mae Dafydd Iwan yn cyd-ganu, mae Mark Drakeford yn rhoi neges i'r genedl, Robert Page, Aaron Ramsey, ac wrth gwrs y prif un... Mr Urdd yno drwy gydol y bore!"

Disgrifiad,

Disgyblion Ysgol Cae'r Nant yng Nghei Connah yn canu Yma o Hyd

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr ymateb ar draws Cymru i'r jambori wedi "tynnu pawb ynghyd".

"Mae'r holl broses wedi codi llawer o gyffro - cyfnod hapus i ni fel cenedl.

"Dwi'm yn meddwl fod 'na un wlad arall yn y byd lle mae bron i 90% o ddisgyblion cynradd y genedl wedi canu i ddymuno'n dda i'r tîm."

Pynciau cysylltiedig