'Hollol naturiol' i Dywysog Cymru gefnogi Lloegr

Yn ôl y canwr a'r gwleidydd Dafydd Iwan mae'n "hollol naturiol" i Dywysog Cymru gefnogi Lloegr am ei fod yn Sais.

Fe wnaeth y Tywysog William ymweld â charfan Lloegr ddechrau'r wythnos i ddymuno'n dda i'r tîm cyn iddyn nhw deithio i Qatar, ond doedd dim ymweliad brenhinol tebyg gyda charfan Cymru.

Mae awgrym hefyd y gallai'r Tywysog fynd allan i Qatar i gefnogi Lloegr pe bydden nhw'n gwneud yn dda yn y gystadleuaeth.

"Mae rhywbeth yn annaturiol iawn pan fydd pobl yn trio esgus bod William, am ei fod o'n 'Dywysog Cymru', yn cefnogi Cymru," meddai Dafydd Iwan wrth Newyddion S4C ar 7 Tachwedd.

"Na, Sais ydy o, ac mi ddylai o gefnogi ei dîm ei hun, a phob lwc iddo fo. Ond dwi'n gobeithio y byddwn ni 'di curo nhw cyn hynny!"