Tywysog William yn 'cefnogi Cymru a Lloegr' yn Qatar

  • Cyhoeddwyd
PA MediaFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynodd y Llywydd Elin Jones yr het bwced Cymru sydd yn ei llaw i'r Tywysog, wrth iddi hi a'r Dirprwy Lywydd David Rees gyfarfod ag ef

Yn ystod taith i'r Senedd mae Tywysog Cymru wedi trafod ei gefnogaeth i dîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, ddydd Llun fe ymwelodd William â chanolfan hyfforddi tîm pêl-droed Lloegr a chyflwyno eu crysau iddynt ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar.

Doedd dim ymweliad tebyg gyda charfan Cymru, gyda rhai yn cwestiynu'r penderfyniad yn sgil teitl William fel Tywysog Cymru.

Bu'r Tywysog yn siarad â gwleidyddion ym Mae Caerdydd ar ei ymweliad cyntaf â Senedd Cymru ddydd Mercher.

Yno bu i William gwrdd â'r Prif Weinidog Mark Drakeford ac aelodau o'r Senedd o bob plaid.

Roedd Palas Kensington wedi dweud mai nod y cyfarfod oedd "dyfnhau ei ddealltwriaeth o'r materion a'r cyfleoedd sydd o'r pwys mwyaf i'r Cymry".

Cadarnhaodd y Palas, yn ogystal, nad oes gan Dywysog Cymru unrhyw gynlluniau ar gyfer arwisgiad ffurfiol.

'Cefnogi Cymru a Lloegr'

Fe godwyd cefnogaeth William yn y pêl-droed pan gyfeiriodd Lywydd y Senedd, Elin Jones - wrth ddal het bwced Cymru y cyflwynodd hi iddo'n ddiweddarach - at y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 29 Tachwedd.

Atebodd William: "Rwy'n dweud wrth bawb fy mod yn cefnogi'r ddau, yn bendant. Ni allaf golli."

Ffynhonnell y llun, Getty Images/FA
Disgrifiad o’r llun,

Tywysog Cymru yn cyflwyno crys i gapten Lloegr, Harry Kane yn gynharach yr wythnos hon

Ychwanegodd: "Rydw i wedi cefnogi Lloegr ers i mi fod yn eithaf bach, ond rwy'n cefnogi rygbi Cymru a dyna fy ffordd o wneud hynny.

"Rwy'n hapus i gefnogi Cymru dros Loegr yn y rygbi.

"Mae'n rhaid i mi allu chwarae'n ofalus gyda fy nghysylltiadau oherwydd dwi'n poeni fel arall os ydw i'n gollwng Lloegr yn sydyn i gefnogi Cymru yna nid yw hynny'n edrych yn iawn ar gyfer y gamp chwaith.

"Felly ni allaf wneud hynny."

Aeth ymlaen i dweud: "Ffeinal Cwpan y Byd rhwng Lloegr a Chymru fyddai orau... byddai hynny'n dda iawn.

"Rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i allan yna yn cefnogi Cymru drwy'r holl broses oherwydd rwy'n gwybod bod hwn yn rywbeth mawr i Gymru.

"Pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ni lwyddodd Cymru i gyrraedd y twrnameintiau felly roedd yn rhaid i mi wneud dewis."

Mae awgrym y gallai'r Tywysog fynd allan i Qatar i gefnogi Lloegr pe bydden nhw'n gwneud yn dda yn y gystadleuaeth.

'Rhaniadau'

Hon oedd ail ymweliad swyddogol William â'r wlad fel Tywysog Cymru.

Yn gynharach eleni, ymwelodd ef a Thywysoges Cymru ag Abertawe ac Ynys Môn - lle buon nhw'n byw am dair blynedd ar ôl priodi.

Nid oedd y dywysoges yn bresennol yn y cyfarfod yng Nghaerdydd, oedd heb rwysg yr ymweliadau brenhinol diweddar.

Cafodd Tywysog Cymru ei deitl gan y Brenin newydd y diwrnod yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.

Sbardunodd y penderfyniad ddadl - dywedodd Llywydd y Senedd ei fod yn "bwnc sy'n creu trafodaeth a rhywfaint o raniadau yng Nghymru".

Dywedodd Elin Jones bod ei hegwyddorion gweriniaethol yn parhau i fod yn "ddi-sigl" yn dilyn ei rhan yn y digwyddiadau i nodi marwolaeth y Frenhines Elizabeth yn y Senedd ac ym Mhalas St James ar gyfer y Cyngor Derbyn.

Ond croesawyd y penodiad gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymweliad heb rwysg a thorfeydd yr achlysuron brenhinol diweddar

Ym mis Medi dywedodd Palas Kensington nad oedd unrhyw gynlluniau i'r Tywysog William gael arwisgiad "unrhyw beth fel y cafodd ei dad" fel Tywysog Cymru yn 1969.

Roedd Mark Drakeford, Prif Weinidog Llafur Cymru, wedi dweud na ddylai unrhyw ddigwyddiad o'r fath fod yn ailadrodd yr arwisgo yng Nghastell Caernarfon y flwyddyn honno.

Siaradodd Mr Drakeford â William yn fuan ar ôl y cyhoeddiad ei fod yn Dywysog Cymru, gan ddweud y bydd William yn ceisio cyflawni ei rôl newydd mewn ffordd sy'n addas ar gyfer y Gymru fodern.

'Hollol naturiol' iddo gefnogi Lloegr

Disgrifiad,

Yn ôl Dafydd Iwan mae'n "hollol naturiol" i Dywysog Cymru gefnogi Lloegr am ei fod yn Sais

Yn ôl y canwr a'r gwleidydd, Dafydd Iwan mae'n "hollol naturiol" i Dywysog Cymru gefnogi Lloegr am ei fod yn Sais.

"Mae rhywbeth yn annaturiol iawn pan fydd pobl yn trio esgus bod William, am ei fod o'n 'Dywysog Cymru', yn cefnogi Cymru," meddai Dafydd Iwan wrth Newyddion S4C yr wythnos ddiwethaf.

"Na, Sais ydy o, ac mi ddylai o gefnogi ei dîm ei hun, a phob lwc iddo fo. Ond dwi'n gobeithio y byddwn ni 'di curo nhw cyn hynny!"

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, AS Plaid Cymru, ar Twitter nos Fawrth: "Mae o'n Sais, felly wrth gwrs mae'n cefnogi Lloegr. Yn amlwg. Da iawn fo.󠁧󠁢

"Rwy'n glir na ddylai fod yn Dywysog Cymru. Ond mae'n rhaid bod y peth pêl-droed yma'n embaras iddo ef hefyd. Dim ond yn tynnu sylw at y nonsens. Amser i ollwng y teitl, does bosib."

Dywedodd ar actor Michael Sheen, mewn neges arall ar Twitter: "Gall, wrth gwrs, gefnogi pwy bynnag y mae eisiau ac fel llywydd yr FA mae ei rôl yn gwneud yr ymweliad [a thîm Lloegr] yn ddealladwy - ond siawns ei fod yn gweld dal teitl Tywysog Cymru ar yr un pryd yn gwbl amhriodol? Heb unrhyw embaras? Neu sensitifrwydd i'r broblem yma?"