'Mae’n anhygoel yma' - Cymry'n creu argraff yng Nghwpan y Byd

O Frasiliaid yn canu Yma o Hyd i Bwyliaid yn siarad Cymraeg - does dim dwywaith bod y Wal Goch wedi gadael eu marc yn Doha.

Cyn y gystadleuaeth roedd digon o gwestiynau teilwng wedi eu codi am ba mor briodol oedd cynnal Cwpan y Byd yn Qatar, a'r wledd o bêl-droed heb newid hynny.

Ond un o'r elfennau sydd wedi ei ganmol fwyaf yw'r sefyllfa ble mae cefnogwyr pob un o'r 32 gwlad, am unwaith, wedi bod yn yr un ddinas.

Am ryw 10 diwrnod o leia', bu'r Wal Goch yng nghanol y carnifal unigryw hwnnw - yn canu, ond hefyd yn cenhadu.