Cwpan y Byd: ‘Mae’r byd yn gwybod pwy yw Cymru nawr’

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

O Frasiliaid yn canu Yma o Hyd i Bwyliaid yn siarad Cymraeg - mae'r Wal Goch wedi gadael eu marc yn Doha

Brasiliaid yn canu Yma o Hyd, Ecwadoriaid yn trafod Wrecsam, Japaneaid yn cyfnewid crysau - does dim dwywaith bod y Wal Goch wedi gadael eu marc yn Doha.

Cyn y gystadleuaeth roedd digon o gwestiynau teilwng wedi eu codi am ba mor briodol oedd cynnal Cwpan y Byd yn Qatar, a'r wledd o bêl-droed heb newid hynny.

Ond un o'r elfennau sydd wedi ei ganmol fwyaf yw'r sefyllfa ble mae cefnogwyr pob un o'r 32 gwlad, am unwaith, wedi bod yn yr un ddinas.

Am ryw 10 diwrnod o leia', bu'r Wal Goch yng nghanol y carnifal unigryw hwnnw - yn canu, ond hefyd yn cenhadu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Detholiad o luniau Rhodri Williams gyda chefnogwyr wyth o'r 32 o wledydd y llwyddodd i'w cael

Llwyddodd Rhodri Williams a'i ffrindiau i gyflawni her o gael llun gyda chefnogwyr o bob gwlad yn y gystadleuaeth yn ystod yr wythnos a dreulion nhw yn Doha.

"'Naethon ni dicio lot bant yn y ddau ddiwrnod cyntaf," esboniodd.

"Wedi hyn roedd angen bod bach mwy tactegol, pwy oedd yn chwarae pryd, felly pa ffans fysa yn y metro a'r fanzones a phryd.

"Naethon ni weld ein Pwyliaid cyntaf ar y ffordd i'r maes awyr wrth i ni adael Doha, literally gorfod rhedeg lawr y grisiau ar eu hôl nhw ar y metro.

"Do'n i'm isie gadael Doha wedi cwblhau dim ond 31 allan o'r 32!"

'Cymru ar y map'

Mae'n dweud bod cael cefnogwyr pob gwlad yn yr un ddinas wedi cyfrannu'n fawr at awyrgylch "o gael diwylliannau amrywiol i gyd yn cael hwyl gyda'i gilydd".

"O'dd gweld ffans o wledydd fel Cameroon, Ghana a Morocco yn gweiddi 'Gareth Bale, he's the best' wedi llenwi ni gyda balchder," meddai.

"Ma' Cymru really ar y map nawr diolch i bêl-droed, ac o'dd hwnna'n really amlwg yn y Cwpan y Byd yma."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y llun yma gyda chefnogwr Ghana ydy'r ffefrun i Rhodri

Ei hoff lun o'r 32, meddai, oedd yr un gyda chefnogwr Ghana.

"O'dd e ar ben ei hun ar y metro yn canu ac yn dawnsio, ac ar ben y byd," meddai.

"'Naeth e ddim stopio canu a dawnsio o gwbl i dynnu'r llun, felly action shot sydd gyda ni.

"Wrth i ni gerdded bant dyma fe'n gweiddi 'Wales is the best, Wales is gonna win' - yn anffodus roedd ei ragfynegiad yn bell o fod yn wir!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Lovgreen fod Cwpan y Byd eleni yn "hollol wahanol i unrhyw beth erioed o'r blaen"

Roedd y canwr Geraint Lovgreen a'i ffrindiau mewn bar llawn Brasiliaid a Mecsicaniaid un noson, gan lwyddo i berswadio'r DJ i chwarae un gân Gymraeg cyn mynd adref.

"Dyma'r Brazilians a'r Mexicans i gyd yn dawnsio i Yma o Hyd, ac roeddan ni mewn efo nhw yn canu, ac erbyn y diwedd roedden nhw'n gwybod y geiriau i gyd," meddai.

"Roedd o jyst yn wych, pawb yn cofleidio ei gilydd - mae o jyst yn crynhoi ysbryd Cwpan y Byd i fi. Hollol wahanol i unrhyw beth erioed o'r blaen."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pawb isio gwybod mwy amdana ni, o le 'dan ni'n dod," meddai Catrin Owen

Cafodd Catrin Owen hefyd brofiad annisgwyl o glywed anthem answyddogol y cefnogwyr yn cael ei chanu, a hynny ar y metro.

"Dyma ni'n clywed rhywun yn canu Yma o Hyd, ac edrych rownd i weld o le oedd hwnna'n dod," meddai.

"Brazilian oedd o, wedi dysgu'r gân ar ôl gêm ni yn erbyn USA, oedd yn amazing.

"Mae pawb isio gwybod mwy amdana ni, o le 'dan ni'n dod, pam 'dan ni ddim yn Lloegr a be' sy'n wahanol amdana ni, sy'n really braf.

"Mae pobl actually yn gwybod pwy 'dan ni 'wan."

'Bod 'ma bron fel ambassador'

Mae'r iaith wedi bod yn thema gyson o'r sgyrsiau hynny gyda chefnogwyr gwledydd eraill, gyda Gethin Morgan o Lan-non, Ceredigion, hyd yn oed yn dweud bod pobl wedi bod yn ei holi am newid yr enw o 'Wales' i 'Cymru'.

"Ni'n siarad efo nhw am iaith, am bopeth," meddai.

"Pobl o Fecsico, Tunisia, Gwlad Belg, Cwrdiaid, i gyd yn gofyn i ni siarad Cymraeg, a dysgu am yr iaith.

"Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i allu bod 'ma bron fel ambassador."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gethin Morgan ac Ianto ap Dafydd fod yr iaith wedi bod yn thema gyson o'r sgyrsiau gyda chefnogwyr gwledydd eraill

Ychwanegodd ei ffrind Ianto ap Dafydd eu bod nhw hyd yn oed wedi cael rhywun yn dweud "prynhawn da" iddyn nhw ar y metro unwaith.

"Mae'n brofiad byddwn ni byth yn cael yn ein bywydau eto," meddai.

"Achos bod Cwpan y Byd i gyd mewn un ddinas, mae jyst di bod yn anhygoel."

Cefnogwr Cameroon yn sôn am Speed

Ambell waith mae'r Cymry wedi cael eu synnu gan gefnogwyr o wledydd eraill sydd eisoes yn gwybod rhywbeth am y wlad.

"Ges i sgwrs 'da boi o Cameroon ar y trên achos bod Gary Speed ar gefn fy nghrys," meddai Rhodri Davies o Lanymddyfri.

"O'dd e'n Newcastle fan felly o'n i jyst siarad 'da fe am hwnna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r cyfeillgarwch yma jyst yn anhygoel, 'dan ni wedi rhoi Cymru ar y map," medd Rhian Davies

Nid dim ond y tîm cenedlaethol sydd wedi cael sylw chwaith yn ôl Rhian Davies - merch cyn-golwr Cymru, Dai Davies.

"Roedd 'na gwpl yr holl ffordd o Ecwador yn dal y metro efo ni, a phan 'naethon nhw ddeall bod ni'n dod o ogledd Cymru, dyma nhw'n deud 'oh, Wrexham!', achos eu bod nhw wedi gwylio'r rhaglen ddogfen," meddai.

"Mae'r cyfeillgarwch yma jyst yn anhygoel, 'dan ni wedi rhoi Cymru ar y map."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Thomas ei fod wedi cyfnewid crysau gyda chefnogwr o Japan

Hyd yn oed pan nad oes iaith gyffredin i allu sgwrsio'n rhugl ynddi, mae ffyrdd eraill wedi bod o ddangos y cyfeillgarwch yna rhwng gwledydd hefyd.

"Ma' shirt swapping 'di bod yn boblogaidd iawn gyda'r bois," meddai Rhys Thomas o Abertawe.

"Fi 'di swopio un fi gyda crys Japan. Roedd 'na hefyd gefnogwr Iran ar y tram oedd yn gwybod cwpl o eiriau Cymraeg, felly o'dd hwnna'n sypreis neis."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Irfon Glyn, mae profiadau cefnogwyr yn Qatar wedi "atgyfnerthu mai iaith ryngwladol ydy pêl-droed"

Un o'r pethau oedd yn dod â'r balchder mwyaf i Irfon Glyn o'r Fenni oedd gweld baner Cymru ym mhobman - o gofio mai Jac yr Undeb fyddai wedi bod fwyaf amlwg y tro diwethaf iddyn nhw chwarae yng Nghwpan y Byd yn 1958.

Er na aeth pethau o blaid Cymru ar y cae, mae'n teimlo bod y cefnogwyr wedi manteisio'n llawn ar y cyfle i gymysgu o'r diwedd gyda gweddill y byd ar y llwyfan mwyaf oll.

"Mae 'di bod yn brofiad anhygoel bod y gwledydd i gyd mewn un lle, a 'dach chi'n cwrdd â phobl o bob gwlad drwy'r adeg," meddai.

"Mae jyst yn atgyfnerthu mai iaith ryngwladol ydy pêl-droed."