'Mae wir ishe'r peips ma' gael eu trwsio'

Mae tua 4,500 o bobl ledled Cymru heb gyflenwad dŵr wrth i bibelli ddadmer ar ôl y tywydd oer.

Mae'n effeithio'n bennaf ar y canolbarth a'r gorllewin, ac ymysg yr ardaloedd sydd wedi'u taro mae Aberteifi.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro, gan ddweud y bydd mwy o adnoddau yn cael eu darparu i'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio, ac ychwanegu bod ymdrechion i drwsio'r pibelli wedi'i lesteirio gan law trwm ddydd Sul.

Dyweddodd y Cynghorydd Elaine Evans o Gyngor Ceredigion eu bod nhw wedi mynd o amgylch yr ardal yn ceisio rhoi cymorth i bobl, ond eu bod yn parhau i ddisgwyl am boteli dŵr gan Dŵr Cymru.

Ychwanegodd John Adams-Lewis o Gyngor Tref Aberteifi nad ydyn nhw wedi cael cyflenwad ers dydd Sadwrn.