Datrys problemau dŵr yn 'parhau'n her fawr iawn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Profiadau pobl yn Aberteifi wrth i bibellau'n dadmer achosi anrhefn o ran cyflenwad dŵr Ceredigion

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd cyflenwadau dŵr wedi eu hadfer i fwyafrif eu cwsmeriaid yn y gorllewin ar canolbarth erbyn diwedd ddydd Mawrth.

Fe wnaeth y cwmni gadarnhau brynhawn Llun fod tua 4,500 o bobl ledled Cymru heb gyflenwad dŵr ar ôl y tywydd rhewllyd.

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn delio â phrif bibellau dŵr sydd wedi byrstio yn ardaloedd Efailwen a Chlunderwen yn Sir Benfro, a Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd adroddiadau o broblemau tebyg yn ardaloedd Glanyfferi a Chydweli hefyd, gyda rhai cartrefi yn ardaloedd Llandysul ac Aberteifi wedi bod heb ddŵr ers dydd Sadwrn.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro, gan ddweud bod adfer y cyflenwadau'n profi'n "her fawr iawn".

Bydd mwy o adnoddau yn cael eu darparu i'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio, meddai Dŵr Cymru, a ychwanegodd bod ymdrechion i drwsio'r pibelli wedi'i lesteirio gan law trwm ddydd Sul.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Gwyn Thomas o'r cwmni eu bod yn gwneud "popeth o fewn eu gallu i drwsio pethe' cyn gynted ag sy'n bosib".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysgol Bro Teifi, Llandysul ar gau ddydd Llun

Yng Ngheredigion, roedd nifer o ysgolion, canolfannau dydd, Neuadd y Sir a Chanolfan Hamdden Aberaeron ar gau ddydd Llun.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd un o gynghorwyr sir Ceredigion bod y cyfathrebu gan Dŵr Cymru wedi bod yn "ofnadwy".

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, sy'n cynrychioli Aberaeron ac Aberarth: "Ers prynhawn ddoe roedden ni heb ddŵr ond roedd ardaloedd yn Aberteifi, lan i Landysul a Horeb heb ddŵr ers dydd Sadwrn, dros 3,000 o dai heb ddŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans bod y "sefyllfa yn newid pob awr"

"Mae cynghorwyr, fel yn Aberteifi, wedi bod yn dosbarthu dŵr a Chyngor Sir Ceredigion wedi esbonio'r sefyllfa ddifrifol.

"Yn anffodus mae cyfathrebu gyda Dŵr Cymru wedi bod yn eithriadol o wael ond eu bod nhw'n gobeithio tancio dŵr lan i Aberaeron y bore ma."

Ychwanegodd: "Mae pobl yr ardal, yn enwedig lawr yn Aberteifi wedi bod heb ddŵr ers dydd Sadwrn a dim dŵr yn cael ei ddosbarthu gan Ddŵr Cymru felly roedd hi lan i'r cynghorwyr sir a chynghorwyr tref Aberteifi i ddosbarthu dŵr, a'r cyfathrebu gyda dŵr Cymru yn ofnadwy.

"Rydw i wedi siarad â nhw neithiwr ac rwy'n deall bod lleoliad dosbarthu dŵr yn Llandysul a Chastell Newydd Emlyn, ond mae'r sefyllfa yn newid pob awr."

'S'dim syniad gyda neb'

Dywedodd Steffan Walker o Westy'r Albion yn Aberteifi eu bod wedi colli eu cyflenwad ers nos Sadwrn.

"Achos s'dim dwr does dim modd agor," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg cyflenwad yn effeithio ar bob busnes lletygarwch yn yr ardal, meddai Steffan Walker

"Fel arfer mae'n rhaid i bobl gwesty gael dŵr i redeg. Mae'n rhaid i bobl ymolchi a staff y gegin olchi dwylo ac ati.

"Sdim modd i ni agor a dim just busnes lletygarwch ni ond pob lletygarwch yn Ceredigion a busnesau arall."

Ychwanegodd: "Dy' ni heb gael dim gwybodaeth o Dŵr Cymru. S'dim syniad gyda neb pryd bydd y dŵr yn dod nôl ymlaen.

"Ynglŷn â'r busnes mae e'n amser caled... mae llawer o llefydd wedi cau achos does dim dŵr.

"Mae knock on effect wedyn gyda staff, pobl ddim yn gallu dod i gwaith achos sdim dŵr."

'Straen'

Mae canolfan yn Aberaeron sydd ar gael i aelodau bregus y gymuned gadw'n gynnes wedi gorfod cau oherwydd diffyg dŵr.

Dywedodd Megan Tomlins, Cydlynydd Canolfan Deuluol RAY yn y dref fod y sefyllfa yn "straen".

"Ry'n ni wedi'n gorfodi i gau i'r cyhoedd heddi. Does gennym ni ddim dŵr tap. Mae 'na rai casgenni sy'n casglu dŵr yn y cefn ond ry'n ni wedi bod yn defnyddio bwcedi rhag ofn bod angen i rywun ddefnyddio'r tŷ bach.

"Ble mae Dŵr Cymru? Nid dyma'r hyn ry'n ni eisiau cyn y Nadolig."

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd yr Aelod Seneddol Ben Lake y dylai Dŵr Cymru fod wedi cyfathrebu yn well.

"Pe bai wedi bod yn bosib cael mwy o amserlen byddai wedi helpu pobl i gynllunio," dywedodd.

"Nawr 'wi'n deall bod natur y gwaith a graddfa'r broblem yn ei gwneud hi'n anodd i roi amser penodol, pendant ond byddai gwell cyfathrebu o'r cychwyn wedi bod yn help a byddai pobl ar draws y sir wedi croesawu hynny dwi'n siŵr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd lori'n llawn poteli dŵr aeth i Landysul yn wag erbyn prynhawn Llun

Dywedodd Dŵr Cymru bod tua 4,500 o dai, yn bennaf yng Ngheredigion, yn parhau i fod heb ddŵr brynhawn ddydd Llun.

Maen nhw wedi ymddiheuro i gwsmeriaid yn yr ardal, gan ddweud bod newid sydyn yn y tymheredd o dywydd "tipyn islaw'r rhewbwynt i tipyn yn uwch na'r rhewbwynt" yn rhannol gyfrifol.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio rownd y cloc dros y 48 awr ddiwethaf i ganfod cymaint o'r gollyngiadau â phosib a dechrau'r broses o'u trwsio," meddai'r prif weithredwr Peter Perry.

"Mae cymaint o ollyngiadau wedi bod, mae'r lefelau'n isel drwy'r rhwydwaith ac felly does dim dŵr i ddangos i ni ble mae'r gollyngiadau.

"Felly mae'n rhaid i ni weithio'n ffordd drwy'r system, llenwi storfeydd y rhwydwaith a'r cronfeydd, fel bod modd gweld wedyn ble mae'r dŵr yn gollwng, a'i drwsio.

"Dyna pam mae'n cymryd cymaint o amser ac mae'n ddrwg iawn gen i am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Peter Perry y gallai gymryd tan ddiwedd y prynhawn ddydd Mawrth i ddatrys y problemau

Ychwanegodd ei bod hi'n bosib y bydd hi'n cymryd tan ddiwedd prynhawn dydd Mawrth i ddatrys y problemau yng Ngheredigion, a hynny oherwydd bod "cannoedd" o fannau ble mae dŵr yn gollwng.

Ond er bod y gost o drwsio'r broblem yn debygol o fod "yn y miliynau", dywedodd na fydd hynny'n cael ei ychwanegu at filiau cwsmeriaid.

"Byddai'n help mawr petai cwsmeriaid yn edrych yn yr adeiladau sydd ganddyn nhw, tapiau tu allan, cafnau dŵr gwartheg," meddai.

"Os ydyn nhw'n gollwng, plîs diffoddwch nhw."

Mewn datganiad cynharach roedd y cwmni wedi dweud eu bod wedi gwneud cynlluniau "yn dilyn tymereddau rhewllyd yr wythnos ddiwethaf", ond bod tair gwaith gymaint o bibellau na'r arfer wedi torri.

Ychwanegodd y datganiad bod yr ymateb yng nghefn gwlad Ceredigion wedi ei effeithio gan law trwm ddydd Sul.

Mae Dŵr Cymru'n darparu dŵr potel i gwsmeriaid sy'n flaenoriaeth ac wedi creu canolfannau darparu dŵr potel yn Eglwys St Tysul, Llandysul, a Mart Castellnewydd Emlyn.

Pynciau cysylltiedig