Apêl mab Aled Glynne Davies: 'Ni'n dy garu di gymaint'
Mae teulu Aled Glynne Davies wedi gwneud apêl ar i bobl edrych am unrhyw recordiad fideo posib ohono cyn iddo fynd ar goll.
Fe gafodd Mr Davies, cyn-olygydd BBC Radio Cymru, ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna, Caerdydd nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.
Mewn apêl emosiynol am wybodaeth ddydd Mawrth, dywedodd ei fab Gruffudd Glyn fod ei dad, sy'n 65 oed, mewn cyflwr iechyd bregus.
Mae'n hanfodol, meddai, dod o hyd i glip fideo ohono yn cerdded ar noson ei ddiflaniad.
Mae Heddlu'r De hefyd yn gofyn i bobl gysylltu â nhw, dolen allanol gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300000314, os ydyn nhw'n amau eu bod wedi ei weld neu â unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth.