Teyrngedau i gyn-olygydd Radio Cymru, Aled Glynne Davies
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-olygydd Radio Cymru, Aled Glynne Davies.
Ddydd Mercher, cadarnhaodd Heddlu'r De eu bod wedi dod o hyd i gorff ym Mae Caerdydd wrth chwilio amdano.
Roedd Mr Davies, 65, wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar ôl cael ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna y brifddinas nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel "arloeswr" ac fel "golygydd mwyaf beiddgar" Radio Cymru.
Mae'n gadael ei wraig, Afryl, dau o blant, Gwenllian a Gruff, a dau o wyrion, Deio a Casi.