Aled Glynne Davies: Dod o hyd i gorff ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff ym Mae Caerdydd wrth chwilio am Aled Glynne Davies.
Roedd cyn-olygydd Radio Cymru wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar ôl cael ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.
Ers hynny bu ei deulu, yr awdurdodau ac aelodau'r cyhoedd yn cynorthwyo yn yr ymdrechion i ddod o hyd iddo.
Dywedodd Heddlu'r De nad yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond eu bod "yn meddwl mai Aled yw ac mae ei deulu wedi cael gwybod".
Ymchwiliad yn parhau
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dolen allanol, dywedodd ei fab, Gruffudd Glyn fod y teulu yn "diolch i bawb am eich ymdrech" wrth geisio dod o hyd iddo.
"Mae'n drist iawn gynnon ni i gyhoeddi bod Dad wedi ei ddarganfod yn yr afon," meddai ddydd Mercher.
"Amser i ni gyd drio ymlacio rŵan. Gadewch i ni ddathlu bywyd Dad x."
Dywedodd yr Uwcharolygydd, Michelle Conquer, o Heddlu'r De: "Rydym ni'n parhau i gefnogi teulu Aled ar yr adeg trist yma a bydd ein hymchwiliadau yn parhau er mwyn deall amgylchiadau y farwolaeth."
Dywedodd ei deulu fod Mr Davies, a oedd yn 65 oed, wedi cerdded gyda'i wraig yn ôl i'w tŷ ym Mhontcanna ar ôl gadael bwyty Uisce am 22:36 Nos Galan.
Ar ôl cyrraedd adref, fe adawodd ei dŷ i fynd am dro ar ei ben ei hun.
Wedi i'r teulu apelio am wybodaeth ar ôl iddo fynd ar goll, fe ofynnodd yr heddlu i bobl yr ardal i edrych ar eu lluniau camera cylch cyfyng (CCTV) a ffilmiau cloch drysau tai rhag ofn bod golwg ohono.
Bu cannoedd o bobl hefyd yn helpu gyda'r chwilio yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddechrau'r wythnos.
'Arloesol, egnïol ac angerddol'
Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006, gan weithio hefyd ar wasanaeth Newyddion y BBC ar S4C, ac arwain y tîm sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru'r Byd.
Yn fwy diweddar fe sefydlodd y cwmni cynhyrchu, Goriad, gyda'i wraig Afryl, gan weithio ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys y rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.
Bu hefyd yn feirniad gyda sefydliadau fel Yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, Wales Media Awards a Bafta Cymru.
Dywedodd Rhuanedd Richards, pennaeth BBC Cymru, fod Mr Davies yn "arloesol, egnïol ac angerddol" yn ei gyfnod fel golygydd Radio Cymru.
"Ei nod bob amser oedd creu cynnwys a fyddai'n denu siaradwyr Cymraeg newydd i'r gwasanaeth, a sicrhau fod yr orsaf yn apelio at fwy o bobl iau," meddai.
"Roedd Aled bob amser yn fy annog i ac eraill i gymryd penderfyniadau golygyddol dewr er mwyn ehangu apêl y gwasanaeth cenedlaethol ac mae cymaint ohonom yn y byd darlledu yn ddiolchgar am ei gefnogaeth a'i anogaeth ddiflino ar hyd y blynyddoedd.
"Ers gadael y BBC a sefydlu cwmni Goriad, mae Aled a'i wraig Afryl wedi cynhyrchu cynnwys rhagorol i'r radio a theledu, a'r ddau wedi cynhyrchu rhaglenni poblogaidd Bore Sul Radio Cymru yn ddiweddar.
"Mi fyddwn yn gweld eisiau cwmni a chyfeillgarwch Aled, ynghyd â'i greadigrwydd a'i allu newyddiadurol. Mi fydd yn golled fawr i'r byd darlledu ac i'r iaith Gymraeg."
'Chwyldroi a moderneiddio'
Dywedodd pennaeth gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd fod "angerdd ac egni heintus" Mr Davies tuag at gyfrwng radio yn "cario rhywun efo fo".
"Roedd ganddo syniadau oedd weithiau yn ddadleuol, ond doedd dim ots gan Aled am hynny achos roedd ganddo y weledigaeth yma," meddai ar raglen Post Prynhawn yr orsaf.
"Fe wnaeth o gyflwyno enwau newydd i'r orsaf, pobl fel Jonsi, Becks, Chris Needs ymysg eraill a cymaint mwy o syniadau hefyd."
Dywedodd fod Mr Davies wedi "moderneiddio a chwyldroi Radio Cymru".
Ychwanegodd y darlledwr Huw Edwards fod y newyddion ddydd Mercher yn "dorcalonnus".
"Roedd Aled yn gynhyrchydd ac yn newyddiadurwr o allu sylweddol," meddai. "Roedd hefyd yn berson hael a charedig. Colled enfawr i'w deulu a'i gyfeillion."
Mae Aled Glynne Davies yn gadael ei wraig, Afryl, dau o blant, Gwenllian a Gruff, a dau o wyrion, Deio a Casi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023