'Ymchwiliad i farwolaeth Buddug Jones yn un anodd iawn'

Mae dyn 52 oed o Ynys Môn wedi ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio ei bartner ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd orllewin yr ynys.

Cafwyd Colin Milburn yn euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Tachwedd o lofruddio Buddug Jones, 48.

Wrth siarad yn dilyn dedfrydu Milburn, dywedodd DC Arwyn Thomas o Heddlu'r Gogledd fod yr ymchwiliad wedi bod yn "un anodd iawn" ond eu bod yn "hapus iawn efo'r ddedfryd".