Carcharu dyn o Fôn am oes am lofruddio Buddug Jones
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 52 oed o Ynys Môn wedi ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio ei bartner wrth iddi orwedd yn ei gwely.
Cafwyd Colin Milburn yn euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Tachwedd o lofruddio Buddug Jones, 48.
Cafodd Ms Jones ei chanfod yn farw yn ei chartref ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd orllewin yr ynys ym mis Ebrill 2022.
Wrth ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod Milburn yn "amlwg yn unigolyn peryglus sydd wedi dangos dim edifeirwch".
'Anafiadau catastroffig'
Yn gynharach clywodd Llys y Goron Caernarfon iddi farw o ganlyniad anafiadau "anferthol" i'w phen, a bod yr anafiadau, o bosib, wedi eu hachosi gan sbaner neu forthwyl trwm - chafodd yr arf fyth mo'i ddarganfod.
Fe glywodd y rheithgor sut y datblygodd Milburn obsesiwn â'r syniad fod ei bartner o 32 o flynyddoedd yn cael perthnasau gyda phobl eraill ac yn siarad â dynion eraill.
Roedd Buddug Jones ar ei phen ei hun yn eu cartref yn Ynys Môn pan darodd Milburn ei gymar ar ochr chwith ei phen "bump neu chwech o weithiau".
Wedi i Milburn adael y tŷ, fe ddychwelodd rai oriau'n ddiweddarach a dweud wrth gymdogion bod rhywun wedi ymosod a lladd Ms Jones.
Ond cafodd ei arestio wedi i luniau CCTV ddangos ei fod wedi cyrraedd y pentref yn gynharach ar y diwrnod ble cafodd ei lladd.
Mewn datganiad wrth i Milburn gael ei ddedfrydu, dywedodd ei fab hynaf John Milburn, 24, fod llofruddiaeth ei fam yn "hunllef" oedd wedi "newid ei fywyd" yn llwyr.
"Un o'r pethau dwi fwya' blin amdano ydy fod o wedi cymryd Nain fy mhlant i oddi wrthyn nhw," meddai.
"Mam oedd yr un oedd yn cadw'r teulu efo'i gilydd, hi oedd asgwrn cefn y teulu."
Ychwanegodd ail fab, Daniel Milburn, fod ei dad "wedi colli'r hawl i gael ei alw'n dad i mi".
'Dim edifeirwch'
Wrth ei ddedfrydu i garchar am oes, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod Colin Milburn wedi cyflawni ymosodiad "ffiaidd a didrugaredd".
"Roedd yn ymosodiad llwfr, creulon," meddai, gan ddweud fod Milburn wedi bod yn "rhaffu celwyddau" i geisio achub ei groen.
Ychwanegodd ei fod "yn amlwg yn unigolyn peryglus sydd wedi dangos dim edifeirwch".
Ddydd Gwener dywedodd Andrew Slight o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS): "Roedd Colin Milburn yn grediniol fod ei bartner yn cael perthynas gyda rhywun arall ac fe ymosododd yn ffiaidd arni.
"Bu'r anafiadau catastroffig a achosodd i'w phen yn angheuol.
"Cyflwynwyd tystiolaeth gref gan y CPS i ddangos mai Milburn oedd yn gyfrifol a chafodd ei ddedfrydu yn sgil hynny.
"Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Buddug sydd wedi dioddef colled drom."
Roedd Colin Milburn, 52, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
'Urddas a dewrder' gan y teulu
Tu allan i'r llys fe ddywedodd y swyddog oedd yn arwain yr ymchwiliad fod teulu Buddug Jones wedi dangos "urddas a dewrder".
"Maen nhw wedi colli mam, nain, ac wedi gorfod eistedd trwy broses llys ble mae eu tad neu daid wedi bod yn gyfrifol am weithred mor ofnadwy," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Mark Pierce.
"Mae'n anodd dychmygu'r hyn maen nhw'n mynd trwyddo, ond mae'r urddas a'r dewrder maen nhw wedi'i ddangos yn arbennig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022