Rhyddhau cleifion yn rhoi 'her emosiynol' ar ofalwyr
Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol ynghylch cyngor newydd i fyrddau iechyd ryddhau rhai cleifion heb becyn gofal.
Yn ôl arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, mae diffyg staff i roi gofal yn y gymuned os ydy cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb becyn gofal digonol.
Ychwanegodd ei bod yn "drist" ei bod wedi cymryd argyfwng o'r fath i bobl werthfawrogi rôl gofalwyr.
Dywedodd hefyd mai'r hyn fyddai'n help anferth i awdurdodau lleol ydy sicrwydd ariannol am gyfnod hirach na blwyddyn yn unig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod ydy rhyddhau pobl sydd ddim angen triniaeth fel y gall gwelyau gael eu defnyddio gan y rheiny sydd angen mwy o ofal.
Ond ychwanegon nhw y bydd cleifion "ond yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty pan fo hi'n addas yn feddygol i wneud hynny".