Cleifion i fedru gadael yr ysbyty heb becyn gofal
- Cyhoeddwyd
Fe all cleifion sy'n ddigon da i gael eu rhyddhau fynd adref heb becyn gofal, yn ôl cyngor newydd gan Lywodraeth Cymru.
Daw'r neges ar ôl i feddygon ac arweinwyr iechyd ddisgrifio fod y pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn 'waeth nag erioed'.
Mae'r saith bwrdd iechyd wedi dweud wrth BBC Cymru fod ganddyn nhw gyfanswm o fwy na 1,700 o gleifion sy'n ddigon da yn feddygol i adael yr ysbyty.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y sefyllfa'n un "ddigynsail" o fewn y gwasanaeth iechyd.
Mewn llythyr, mae'r prif swyddog nyrsio a'r dirprwy brif swyddog meddygol wedi cynnig "cymorth a chyngor i sicrhau bod cleifion yn cael eu cadw mor ddiogel â phosib, a gwasanaethau'n cael eu cadw mor effeithiol â phosib dros y cyfnod nesaf".
Dywedodd fod y GIG yn wynebu pwysau eithriadol a bod mwy na 500 o achosion Covid wedi eu cadarnhau o fewn ysbytai Cymru, ynghyd â feirysau eraill fel ffliw.
"Ry'n ni'n cydnabod fod penderfyniadau clinigol dydd-i-ddydd yn mynd i orfod addasu gyda'r pwysau eithriadol, i sicrhau fod adnoddau'r GIG yn cael eu defnyddio er y budd mwyaf.
"Mae'n rhaid i'n capasiti ysbyty gael ei gynnal ar gyfer y rheiny sy'n wynebu'r risg mwyaf... ac mae hyn yn golygu bod gofyn i ni wneud yr hyn a allwn i gadw pobl adref, peidio derbyn pobl i ysbytai, heblaw bod hynny'n gwbl angenrheidiol, ac i anfon y rheiny sydd yn yr ysbyty i'w cartrefi neu i fan diogel cyn gynted ag sy'n bosib."
Mae pecyn gofal GIG yn golygu fod cleifion yn cael gwasanaeth yn eu cartef neu mewn cartref gofal.
Gallai hyn olygu gofal gan nyrs neu therapydd cymunedol neu dalu am ffioedd cartref gofal.
Ychwanegodd y llythyr eu bod yn cynnig cefnogaeth a dealltwriaeth ac y gallai'r "addasiad angenrheidiol" hwn fod yn destun pryder i rai gweithwyr proffesiynol.
Dywedodd y bydd y GIG yn "gwasanaethu ein poblogaeth orau os y gall y cynifer o bobl â phosib naill ai aros adref neu adael gofal ysbyty cyn gynted ag sy'n bosib".
Ychwanegodd y bydd angen i "bawb ystyried trefniadau rhyddhau efallai na fydd yn berffaith, pecyn gofal efallai na fydd wedi ei gynllunio ac fe allai asesiadau cymdeithasol orfod digwydd yn y cartref yn hytrach nag yn yr ysbyty".
'Pecyn gofal yn gwbl allweddol'
Mae angen i'r sector gofal cymdeithasol a gofal iechyd weithio gyda'i gilydd yn ôl Mary Wimbury, prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru.
"Mae'n rhaid i ni fod yn debycach yn nhermau talu cyfraddau addas... fel y gall darparwyr gofal cymdeithasol dalu eu staff i gadw a'u recriwtio yn ddigonol i ddarparu'r gofal sydd ei angen ar bobl."
Dywedodd fod pecyn gofal yn "gwbl allweddol" ond bod angen cefnogaeth ar weithwyr gofal hefyd.
"Allwn ni ddim bod mewn sefyllfa lle ry'n ni'n gadael pobl i ofalu am eu hunain, mae'n rhaid i ni ddarparu'r gofal hwnnw, ond mae'n rhaid i ni ddarparu'r gefnogaeth ar gyfer y gweithwyr gofal.
"Mae'n llawer rhatach i bobl gael gofal yn eu cartrefi'n hytrach na mewn ysbytai, a gallai hyn ryddhau arian i fuddsoddi'n gywir mewn gofal cymdeithasol, a fydd yn cadw pobl draw o'r ysbyty yn y lle cyntaf."
'Cyfle gorau i gleifion wella'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fod ganddyn nhw bron i 280 o gleifion - sy'n cyfateb â thua 10 ward - sy'n ddigon da yn feddygol i adael ond dydyn nhw ddim yn gallu oherwydd gwahanol resymau.
Mae'r bwrdd iechyd yn annog teuluoedd i ryddhau gwelyau trwy gefnogi eu hanwyliaid i fynd adref - fe fyddai hynny, meddir, yn gwarchod y cleifion sy'n barod i adael a rhoi'r cyfle gorau iddyn nhw wella.
Yn y gogledd, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod ganddyn nhw tua 197 o gleifion oedd yn ddigon da yn feddygol i adael eu tri phrif ysbyty.
Dywedodd bwrdd iechyd arall, Aneurin Bevan, fod tua 253 o gleifion yn barod i gael eu rhyddhau. Mae gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda tua 300.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fod tua 289 o gleifion yn ddigon da yn feddygol i adael yr ysbyty, gyda Bwrdd Iechyd Powys yn dweud fod ganddyn nhw 24 o gleifion mewn gwelyau i oedolion sy'n barod i adael.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dweud fod ganddyn nhw tua 400 o gleifion sy'n ddigon da yn feddygol i gael eu rhyddhau.
Daw'r ffigyrau diweddaraf wrth i fyrddau iechyd ar draws Cymru rybuddio eu bod dan straen eithriadol.
Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke
Mae sawl peth yn achosi'r straen aruthrol ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd.
Mae wythnos gyntaf y flwyddyn newydd wastad yn anodd - o ganlyniad i effaith y Nadolig a gwyliau banc ar wasanaethau.
Mae lefelau ffliw wedi bod yn codi am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig a Covid dal yn fygythiad.
Ond nid afiechydon y gaeaf sy'n llwyr gyfrifol am yr argyfwng ar hyn o bryd a fe fydden i'n amheus o unrhyw un sy'n ceisio dadlau hynny.
Ry'n ni'n gweld tystiolaeth amlwg o wasanaeth sy'n methu ymdopi â'r galw arno, beth bynnag fo'r rhesymau am y galw hwnnw.
Ac er bod sgil effeithiau ac ôl-effeithiau'r pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa mae'r straen yma wedi bod yn gwaethygu ers blynyddoedd.
Mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â chyllid i'r gwasnaeth iechyd, y gweithlu a hefyd cyflwr gofal cymdeithasol.
Hynny yw, a yw'r systemau erbyn hyn yn addas ar gyfer anghenion y boblogaeth, poblogaeth wedi'r cyfan sy'n byw yn hŷn?
Mae gofynion y boblogaeth yn wahanol iawn nawr i'r sefyllfa pan gafodd y gwasnaeth iechyd ei sefydlu, dri chwarter canrif yn ôl gan Aneurin Bevan.
Yr hyn sy'n gwbl amlwg yw y bydd mân newidiadau fan hyn a fan draw ddim yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau sylfaenol anferth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r GIG yn wynebu galw digynsail y gaeaf hwn yn ymateb i achosion ffliw a Covid, ac rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd ganolbwyntio ar ryddhau'r rhai nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach yn ddiogel.
"Mewn rhai achosion gallai hyn olygu derbyn gofal yn y cartref, ac rydym wedi gofyn i deulu ac anwyliaid helpu lle bo modd, i ryddhau gwelyau i bobl sydd angen gofal brys.
"Rydym eisoes wedi sicrhau bod mwy na 500 o welyau cymunedol a phecynnau gofal ychwanegol ar gael y gaeaf hwn i helpu i ryddhau pobl o'r ysbyty, ac ry'n gweithio ar ddarparu mwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022