'Bu farw mam ddyddiau wedi'r diagnosis canser'

Mae menyw o Ben Llŷn a gollodd ei mam i ganser y pancreas yn dweud fod angen gwneud mwy ar frys i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser.

Bu farw Gwen Booth yn 66 oed yn 2015. Cafodd ei diagnosis ar 24 Ebrill, a bu farw ar 9 Mai.

Dywedodd ei merch, Kelly Williams, 42 oed o Sarn, fod diagnosis ei mam wedi bod yn "gymaint o sioc".

Mae hi wedi bod yn casglu arian i elusen Pancreatic Cancer Action, gan ddweud fod angen i fwy o bobl fod yn ymwybodol o'r symptomau.

"Wrth edrych yn ôl, mae'n siŵr bod rhai o'r symptomau wedi bod yna flwyddyn ynghynt, just bo' ni ddim yn adnabod y symptomau ac yn gwybod dim byd am pancreatic cancer ar yr adeg hynny," meddai.