Symptomau canser: Galw am wneud mwy wedi marwolaeth mam

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Kelly Williams yn ceisio codi ymwybyddiaeth wedi'r profiad o golli ei mam

Mae menyw o Ben Llŷn a gollodd ei mam i ganser y pancreas yn dweud fod angen gwneud mwy ar frys i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser.

Bu farw Gwen Booth yn 66 oed yn 2015, bythefnos yn unig wedi iddi gael diagnosis.

Yn ôl elusennau, fe allai cannoedd yn fwy o gleifion yng Nghymru oroesi canser bob blwyddyn pe bai mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael â diffyg "syfrdanol" o ymwybyddiaeth.

Mae tua hanner yr holl farwolaethau canser yma o ganlyniad i chwe chanser penodol: yr ysgyfaint, yr iau, yr ymennydd, y stumog, y pancreas a'r oesoffagws.

Mae dros 4,400 o bobl yn derbyn diagnosis o un o'r rhain yng Nghymru bob blwyddyn.

16% o bobl fydd yn goroesi am bum mlynedd ar ôl derbyn y diagnosis, o'i gymharu â 69% wedi diagnosis o ganser mwy cyffredin.

Mae tasglu o elusennau yn ceisio codi ymwybyddiaeth nawr o'r mathau o ganser sydd anoddaf i'w goroesi.

Fel rhan o'r diwrnod arbennig fe wnaeth y tasglu gynnal arolwg ynglŷn â faint oedd pobl yn ei wybod am symptomau'r chwe chanser.

Dim ond 1% o'r rhai wnaeth ymateb oedd yn gwybod holl symptomau canser oesoffogaidd.

Tua 2% oedd yn gwybod beth oedd symptomau canser yr iau, 4% oedd yn adnabod symptomau canser y stumog a 9% oedd â gwybodaeth am holl symptomau canser yr ysgyfaint.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gwen Booth 15 diwrnod yn unig wedi iddi gael ei diagnosis

Dywedodd merch Gwen Booth, Kelly Williams, 42 oed o Sarn, fod diagnosis ei mam wedi bod yn "gymaint o sioc".

"Doedd hi ddim yn disgwyl hynna chwaith, dwi'm yn meddwl," meddai.

Dywedodd Ms Williams nad oedd ei mam wedi bod yn dda, a'i bod wedi cael poenau yn ei hochr a'i bod yn flinedig iawn.

Ar ôl mynd "nôl a 'mlaen" at feddyg teulu am rai misoedd, cafodd sgan ym mis Ebrill 2015.

Tra'n disgwyl am ganlyniadau'r sgan fe aeth i uned achosion brys am ei bod yn teimlo'n wael iawn, ac yno y cafodd wybod ganlyniadau'r sgan, a bod ganddi ganser y pancreas.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Kelly Williams gyda'i mam Gwen Booth, oedd yn 66 oed pan fu farw o ganser y pancreas

"Doeddan nhw'n gallu gwneud dim byd," meddai Ms Williams.

Cafodd Ms Booth ei diagnosis ar 24 Ebrill, a bu farw ar 9 Mai.

Mae ei merch wedi bod yn casglu arian i elusen Pancreatic Cancer Action, gan ddweud fod angen i fwy o bobl fod yn ymwybodol o'r symptomau.

"Wrth edrych yn ôl, mae'n siŵr bod rhai o'r symptomau wedi bod yna flwyddyn ynghynt, just bo' ni ddim yn adnabod y symptomau ac yn gwybod dim byd am pancreatic cancer ar yr adeg hynny," meddai Ms Williams.

"Tasan ni'n gwybod, neu wedi clywed mwy am ganser y pancreas, ella 'sa ni wedi cael gwybod yn gynt."

Gwella cyfraddau goreoesi

"Mae'r gwahaniaeth rhwng cael diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint a chael diagnosis hwyr yn cael effaith sylweddol o ran yr opsiynau triniaeth sy'n bosibl," meddai Lowri Griffiths, o Gofal Canser Tenovus.

"Mae'r ymwybyddiaeth yn syfrdanol o isel," meddai, "ond mae'n rhaid i ni hefyd wneud mwy o ran y gwaith sgrinio am ganser."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael diagnosis a thriniaeth gynnar yn allweddol bwysig, medd Lowri Griffiths

Mae mwy o bobl yng Nghymru yn marw o ganser yr ysgyfaint nag unrhyw ganser arall.

Fe wnaeth Tenovus ymgyrchu'n llwyddiannus i gyflwyno prosiect sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru - ymgyrch a fydd yn dechrau eleni.

Mae Tenovus hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i wella cyfraddau goroesi canser.

"Mae angen mwy o staff, mae angen mwy o ganolfannau diagnostig cynnar, ac mae angen cyflymu'r broses fel ein bod yn gallu rhoi diagnosis cynnar a rhoi triniaeth yn gynnar, ac achub cannoedd o fywydau," meddai Lowri Griffiths.

Gwirio symptomau 'cyn bod hi'n rhy hwyr'

Mae'r tasglu o elusennau canser yn dweud bod gan bron i draean o bobl Cymru ffrind neu anwylyd sydd wedi oedi cyn ceisio cael cyngor meddygol ar ôl datblygu symptomau o'r canserau sy anoddaf i'w goroesi.

Roedd Dai Davies, 62, o Arberth, Sir Benfro, yn paratoi i ymddeol pan gafodd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint.

"Ro'n i wedi dechre peswch gyda tyndra yn fy mrest ac a'th e mlaen am fisoedd," meddai, "cyn cael Covid."

"Pan es i at y meddyg teulu o'r diwedd, roedd hi'n meddwl bod gen i haint ar y frest a ges i antibiotics a wnaeth y rheiny ddim byd, wrth gwrs, ac ar ôl cael pelydr-X a phrawf gwaed fe ddaethon nhw o hyd i diwmor mawr, ac roedd y canser wedi lledaenu.

"Yn anffodus, nid yw fy nghorff yn ymateb yn dda i driniaeth ond rwy'n aros yn bositif ac yn obeithiol - ond licen ni yn fawr pe bawn wedi gwirio fy symptomau yn gynharach, a fi'n annog unrhyw un arall i wneud hynny cyn ei bod hi'n rhy hwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r symptomau gastroberfeddol yn gallu bod yn annelwig iawn, medd Dr Dai Samuel

Mae symptomau'n amrywio ar gyfer y chwe chanser penodol ond y cyngor ydi i gadw golwg ar ddiffyg traul, poen yn yr abdomen, colli pwysau heb esboniad, colli awydd am fwyd, anawsterau wrth lyncu, peswch parhaus, blinder anesboniadwy a chur pen.

"Mae hi'n gallu bod yn anodd i wneud diagnosis o ganserau sy'n effeithio ar y llwybr gastroberfeddol, megis canser yr oesoffagws, y stumog, yr afu a'r pancreas gan eu bod nhw'n gallu bod yn symptomau annelwig iawn," meddai Dr Dai Samuel, Hepatolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Gastroenteroleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Mae angen i ni wella ein strategaethau sgrinio ar gyfer cleifion sydd mewn perygl o gael y canserau hyn, ond hefyd sicrhau bod y rhai â symptomau cynnar yn cael mynediad amserol at wasanaethau diagnostig i sicrhau eu bod yn cael triniaeth gywir."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi nodi dull cynhwysfawr o wella canlyniadau canser, gan gynnwys ymrwymiadau pwysig i ganfod canser yn gynharach, gwella o effaith y pandemig a chwrdd ag amser aros y llwybr canser a amheuir.

"Bydd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser mewn ymateb i'r ymrwymiadau hyn."

Pynciau cysylltiedig