Angen croesawu pobl o gefndiroedd amrywiol i'r Bannau

Mae angen i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod yn fwy croesawgar tuag at bobl o gefndiroedd amrywiol, yn ôl aelodau newydd yr Awdurdod.

Mae pedwar aelod arbenigol newydd wedi eu penodi a'u gobaith ydy gallu cynnig adnoddau'r parc i bawb o bob cefndir.

Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, Aled Edwards, fod angen "newid meddylfryd" wrth wneud mwy o ymdrech i annog pobl i ddod i ymweld â'r parc.