'Angen i Fannau Brycheiniog fod yn fwy croesawgar'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aled Edwards: Croesawu pobl o gefndiroedd amrywiol yn golygu "newid meddylfryd"

Mae angen i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod yn fwy croesawgar tuag at bobl o gefndiroedd amrywiol, yn ôl aelodau newydd yr Awdurdod.

Mae pedwar aelod arbenigol newydd wedi eu penodi a'u gobaith ydy gallu cynnig adnoddau'r parc i bawb o bob cefndir.

Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, Aled Edwards, fod angen "newid meddylfryd" wrth wneud mwy o ymdrech i annog pobl i ddod i ymweld â'r parc.

Mae 4.4 miliwn o bobl yn ymweld â'r parc bob blwyddyn, a dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn edrych i hyrwyddo "mwy o fynediad i gefn gwlad i bawb".

'Teimlo'n anghyfforddus'

Mae pedwar aelod arbenigol newydd wedi'u penodi i Awdurdod y Parc Cenedlaethol o gefndiroedd du, anabledd a LGBTQi+.

Dywedodd yr aelodau newydd bod angen i Fannau Brycheiniog ddod yn fwy hygyrch i bobl anabl a du, a phobl o gymunedau difreintiedig, a'u bod am sicrhau bod cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn "cynrychioli pob llais".

Dr Yvonne Howard-Bunt, un o'r pedwar a benodwyd o'r newydd, yw'r aelod Du benywaidd cyntaf i wasanaethu awdurdod parc cenedlaethol yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, James Osmond
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Mynydd Du ym Mannau Brycheiniog

"Dwi'n gwybod fod rhai pobl yn teimlo'n anghyfforddus iawn yn mynd i rai ardaloedd gwledig," meddai.

"Nid pawb sy'n ymdopi gyda theimlo'n wahanol pan maen nhw yn y llefydd yna ac yn cael eu holi pob math o gwestiynau, teimlo fel eu bod nhw bron yn cael eu gwylio ar adegau."

Ychwanegodd bod "cymaint o syniadau a ffyrdd ymlaen y gallwn ni edrych arnyn nhw er mwyn dod â phobl i mewn".

'Meddylfryd newydd'

Dywedodd Mr Edwards fod gan y Parc bellach "strategaeth gwbl newydd" a chynllun sy'n "gynhwysol yn nhermau pobl".

"Rydyn ni hefyd yn wedi rhoi blaenoraeth i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac mae ganddyn ni gyfle efo pedwar aelod newydd," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru..

"Mi gafon ni nifer dda iawn o bobl yn ymgeisio ac mi oeddan nhw i gyd yn bobl sydd yn gymwys, ac hefyd mi fyddan nhw'n cario argyhoeddiad amrywiaeth.

"Maen nhw wedi dweud eu bod nhw yno i gynyddu'r potensial hwnnw, i ni gael pobl o bob math o gefndiroedd i fwynhau anoddau'r parc."

Ffynhonnell y llun, Stephen Liptrot/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae mynydd Pen y Fan yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol

Ychwanegodd bod gan yr Awdurdod gynlluniau i groesawu mwy o bobl anabl i'r parc, a bod angen anoddau i wneud hynny.

"Mae'n dechrau efo meddylfryd newydd, gwybod maen nhw'n gwneud a beth maen nhw'n ei drafod," meddai.

"Fel arfer, beth sy'n taro rhywun ydy bod rhaid i unrhyw weithred fod yn rhesymol ac yn gymesur, ac y cam cyntaf... ydy canfod beth sydd yn rhesymol a gweld os ydyn ni wedi cyrraedd hwnnw, sydd yn galluogi pobl i fwynhau y parc.

"Un peth rydyn ni'n gwybod yn y cefndir, mae'n rhaid i'r llefydd yma fod yn agored i bobl am resymau iechyd a lles, a hynny bydden ni'n ei fesur â thargedau ar gyfer hynny.

"Mi fydd ein haelodau newydd yn cynorthwyo ni i wneud hynny."

'Teimlo'n rhan ohono'

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James y bydd yr apwyntiadau newydd yn helpu i ehangu mynediad at fyd natur yng Nghymru.

"Y bwriad yw estyn allan i gymunedau a sicrhau bod pobl yn gwybod sut i gyrraedd y parc," meddai.

"Rydyn ni eisiau i bobl deimlo'n rhan ohono - mae hon yn swydd y gall unrhyw yn yng Nghymru ei wneud."

Ar hyn o bryd mae parciau cenedlaethol Cymru'n cwmpasu 20% o dirwedd y wlad, tra bod 10% yn cael ei ystyried "wedi ei reoli'n effeithiol ar gyfer natur".