Y Wladfa: 'Peth gorau wnes i erioed yn fy mywyd'
Teithio i'r Wladfa "oedd y peth gorau erioed" ym mywyd Elin Roberts, a enillodd ysgoloriaeth ddwywaith i fyw yno am gyfnod.
Mae'r ysgoloriaeth flynyddol yn cael ei chynnig gan Gyngor Tref Ffestiniog, sydd wedi gefeillio gyda thref Rawson yn Ariannin.
Mae'r ceisiadau ar agor eto eleni ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-30 oed.
Ar ôl teithio i Batagonia yn 18 oed, fe ddechreuodd Elin ymddiddori yn hanes a gwleidyddiaeth De America.
Erbyn hyn, mae'n astudio gradd meistr yn y maes a dywedodd fod yr ysgoloriaeth wedi "newid ei bywyd".
Gyda galw am ymwelwyr ac athrawon i ddychwelyd i'r Wladfa yn dilyn y pandemig, fe wnaeth Elin annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymgeisio.