'Angen mwy o help athrawon yn y Wladfa ers Covid'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae naw dosbarth gwahanol sy'n cael gwersi Cymraeg yn Ysgol y Cwm, Trevelin, a nifer yn rhagor yn y Gaiman a Threlew hefyd

Mae angen mwy o help o Gymru mewn ysgolion ym Mhatagonia, yn enwedig ar ôl y pandemig, yn ôl y Cydlynydd Dysgu Cymraeg yno.

Yn gynharach eleni, fe rannodd bunesau a phobl eu pryder am golled i'r iaith heb deithiau i'r Wladfa ers y pandemig.

Mae athrawon yno'n rhannu'r un pryder gan ddweud ei bod hi'n "lot fawr o waith" i'r niferoedd ar hyn o bryd.

Ddiwedd yr wythnos hon yw'r cyfle olaf i bobl wneud cais, dolen allanol i fod yn diwtor neu athro yno fis Mawrth y flwyddyn nesaf gyda chynllun y Cyngor Prydeinig, a hynny "mor bwysig" i blant ac oedolion yn y Wladfa, yn ôl Clare Vaughan.

Clare yw'r Cydlynydd Dysgu Cymraeg yn Ariannin a dywedodd ei bod hi'n "anodd" denu pobl ers Covid.

"Mae rhai pobl wedi dod yn fwy cartrefol ers Covid," dywedodd.

"Yn ystod y pandemig wnaeth pawb yn y Wladfa sylweddoli pa mor bwysig ydy mewnbwn Cymry o ran sgiliau arbennig dysgu dwyieithrwydd.

"Efo tair ysgol ddwyieithog, gwersi allgyrsiol ac i oedolion, mae angen mwy o help, wrth gwrs."

Ychwanegodd fod cael athrawon sydd â'r profiad a'r sgiliau hefyd yn bwysig.

Disgrifiad,

Roedd yr un galwadau am fwy o athrawon o Gymru yn 2019, a'r pandemig wedi pwysleisio hynny'n fwy yn ôl yr athrawon

Fe aeth Nia Jones i weithio yn Esquel a Threvelin yn 2016 fel rhan o gynllun y Cyngor Prydeinig, ac wedi gweithio sawl blwyddyn ers hynny yn Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.

Dywedodd fod pedair athrawes yn gyfrifol am yr holl wersi Cymraeg yno ar hyn o bryd a hynny'n "lot fawr o waith".

"Dechreuodd Ysgol y Cwm gydag un dosbarth meithrin ac erbyn hyn mae 150 o ddisgyblion. Mae naw dosbarth gwahanol sy'n cael gwersi Cymraeg bob dydd a'r flwyddyn nesaf bydd criw uwchradd newydd hefyd.

"Mae 'na gyffro pan 'dyn ni'n aros i glywed pwy sy'n dod i dreulio'r flwyddyn gyda ni, ac wrth ddod i'w 'nabod nhw ar ôl iddyn nhw gyrraedd, ac wrth eu gweld yn magu perthynas gyda'r plant a'u teuluoedd a'r gymdeithas ehangach."

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Pedair athrawes sy'n dysgu gwersi Cymraeg yn Ysgol y Cwm a hynny'n "lot fawr o waith" yn ôl Nia Jones

Ychwanegodd Nia bod gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr ers y pandemig yn golygu bod yr angen am athrawon a thiwtoriaid o Gymru hyd yn oed yn fwy.

"Erbyn hyn mae ymwelwyr yn dechrau dod 'nôl i'n gweld ni, ond ychydig iawn yw'r niferoedd. Dydyn ni heb weld criw yr Urdd ers 2019 ac roedd hynny'n uchafbwynt yn flynyddol.

"Mae'r cwymp yn niferodd yr ymwelwyr yn gwneud rôl yr athrawon a'r tiwtoriaid o Gymru hyd yn oed yn fwy gwerthfawr."

Ffynhonnell y llun, URDD GOBAITH CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Criw yr Urdd a deithiodd i'r Wladfa yn hydref 2019 - ni chafwyd taith yr Urdd ers hynny ac nid oes un eto eleni

Ychwanegodd Siwan Evans, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin, fod yna alw am fwy o athrawon o Gymru yn Ysgol yr Hendre yn Nhrelew hefyd.

"Maen nhw'n chwilio am un athro dosbarth - i ddysgu plant trwy gyfrwng y Gymraeg - ac un i ddysgu canu a dawnsio gwerin ac yn y blaen.

"Mae'n brofiad bythgofiadwy. Ma' na lai na dau fis rwan i recriwtio. 'Swn i'n annog pobl i drio am y swyddi 'ma cyn gynted ag sy'n bosib."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Noe Sanchez Jenkins o Esquel ei bod "bob tro yn bleser derbyn pobl o Gymru"

Mae Noe Sánchez Jenkins, 29 yn un o'r bobl sydd wedi elwa o fod yng nghwmni tiwtoriaid ac ymwelwyr o Gymru wrth ddysgu Cymraeg.

Dywedodd Noe, sy'n dod o Esquel, ei bod wedi gweld eisiau siarad wyneb yn wyneb gyda phobl o Gymru yn ystod y pandemig.

"Mae mwy a mwy o bobl isio dysgu, oedolion a phlant hefyd, oherwydd yr ysgolion dwyieithiog," dywedodd.

"Mae'r ysgolion yn tyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn felly 'dan ni'n angen pobl i helpu.

"Tra bod ni'n dysgu'r iaith, 'dan ni'n dysgu'r caneuon, y traddodiadau... mae mor bwysig cadw'r cysylltiad rhwng Cymru ac Ariannin."

'Profiad amhrisiadwy'

Yn ystod y pandemig, fe gafodd y cynllun ei ohirio am gyfnod oherwydd y cyfnodau clo.

Eleni, fe aeth tri allan yno am gyfnod byrrach - o Awst tan fis Rhagfyr - ond y gobaith i Clare Vaughan yw y bydd tri yn cael eu penodi am gyfnod o naw mis o fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Clare Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Clare Vaughan (canol) fod angen mwy o help gan diwtoriaid ac athrawon profiadol o Gymru

Ar ôl cael ei ymestyn, ddydd Gwener 30 Rhagfyr yw'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, gyda chynnig o gyflog £750 y mis a chostau teithio a llety.

Dywedodd Clare bod yr angen am diwtoriaid o Gymru "mor bwysig".

"Er bod y cyflog yn edrych yn ddigon isel i athrawon neu diwtoriaid proffesiynol, cofiwch fod y cynllun yn talu llety a chostau teithio," ychwanegodd Clare.

"Mae'r cyflog fwy neu lai yn gyflog athrawon lleol yn y Wladfa felly mae'r profiadau gewch yn amhrisiadwy!"

Pynciau cysylltiedig