2 Sisters: 'Ti'n cymryd yn ganiataol fod y job yna'

Mae ymchwiliad wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i'r bwriad o gau ffatri dofednod 2 Sisters yn Llangefni.

Cafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher fod y cwmni yn bwriadu cau'r safle, gan roi 730 o swyddi mewn perygl.

Un o'r rheiny ydy Vince Williams, 55, fu'n siarad gydag Elen Wyn ar raglen Newyddion S4C.

Dywedodd ei fod ef a'i deulu yn iawn yn ariannol am fis neu ddau ond "ar ôl hynna, pwy a ŵyr?"

Mae eisoes wedi bod yn chwilio am swydd arall, ond yn cydnabod y bydd hi'n heriol gyda chymaint o'i gyd-weithwyr hefyd yn ymgeisio am yr un swyddi.

Ychwanegodd ei bod yn drist y bydd yn gorfod awgrymu i'w wyrion ac wyresau i "fynd i ffwrdd i weithio" am fod diffyg cyfleoedd ar Ynys Môn.

Dywedodd y Gweinidog Economi Vaughan Gething y bydd tasglu yn cael ei sefydlu, ac y bydd yn cyfarfod ar 3 Chwefror er mwyn ceisio canfod "ffordd ymlaen".