Ymddeoliad Joe Allen yn 'drist ond ddim yn syndod'
Mae llu o negeseuon wedi canmol a diolch y chwaraewr canol cae Joe Allen am ei gyfraniad i dîm Cymru yn dilyn y cyhoeddiad ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 32 oed.
Fel un o aelodau mwyaf dylanwadol y garfan dros y degawd diwethaf, fe chwaraeodd rhan allweddol yn helpu'r tîm i gyrraedd pencampwriaethau Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.
Ond fe ddywedodd ddydd Mawrth: "Yn anffodus, oherwydd anafiadau daeth diwedd cyfnod ac mae'n amser rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf fwrw 'mlaen."
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Mike Davies - cyn-brifathro'r chwaraewr yn Ysgol y Preseli, Crymych - nad oedd y cyhoeddiad yn syndod iddo.