Joe Allen yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Mike Davies - cyn-brifathro'r chwaraewr yn Ysgol y Preseli, Crymych - nad oedd y cyhoeddiad yn syndod iddo

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 32 oed.

Mewn gyrfa ryngwladol a ddechreuodd yn 2009, enillodd 74 cap dros ei wlad.

Mae ymadawiad Allen yn golygu bod Cymru wedi colli un arall o'u chwaraewyr pwysicaf yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale fis diwethaf.

Fe helpodd y tîm i gyrraedd Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Allen wedi cynrychioli Abertawe, Wrecsam, Lerpwl a Stoke yn ystod ei yrfa

"Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus i gael chwarae dros Gymru," meddai mewn datganiad dwyieithog drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Mae'r daith wedi bod yn un anhygoel ac rwyf wedi ei rannu â phobl arbennig iawn: fy nheulu, cydchwaraewyr, staff a chefnogwyr... mae pob un wedi cyfrannu i'w wneud yn daith eithriadol.

"Rwyf yn ddiolchgar i bob un ohonoch. Roedd y gefnogaeth gan Gymry oll yn ysbrydoliaeth a roddodd balchder pur i mi bob tro wrth wisgo'r crys. Bu cymaint o brofiadau bythgofiadwy.

"Yn anffodus, oherwydd anafiadau daeth diwedd cyfnod ac mae'n amser rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf fwrw 'mlaen.

"Mae dyfodol pêl droed Cymru yn ddisglair."

Ffynhonnell y llun, FAW

Roedd Allen yn ffigwr canolog i Gymru yn ystod y cyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes tîm cenedlaethol y dynion.

Bu'n rhan allweddol o'r rhediad i rownd gynderfynol Euro 2016, a cafodd ei enwi yn nhîm y bencampwriaeth gan y trefnwyr UEFA.

Fe wnaeth cyn-chwaraewr Lerpwl a Stoke hefyd chwarae rhan flaenllaw wrth i Gymru gyrraedd Euro 2020, ble cyrhaeddon nhw'r ail rownd.

Yna fe lwyddodd Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ond roedd anaf yn golygu nad oedd Allen mor ddylanwadol ag y byddai'n dymuno.

Roedd ansicrwydd am gyfnod a fyddai'n gallu bod yn rhan o'r garfan o gwbl, ond fe lwyddodd i chwarae rhan mewn dwy o gemau Cymru yn Qatar.