Daeargryn Twrci a Syria: Teulu tŷ capel wedi colli chwe aelod teulu

Mae teulu o Syria sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin wedi cael gwybod eu bod wedi colli chwech o'u perthnasau yn y daeargrynfeydd sydd wedi taro'r wlad.

Erbyn dydd Gwener, roedd mwy na 21,000 o bobl yn Nhwrci a Syria wedi eu lladd yn y trychineb - ac mae disgwyl i'r niferoedd godi.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dolen allanol, dywedodd gofalaeth Capel y Priordy fod y teulu, sy'n byw yn y tŷ capel, wedi colli dau oedolyn a phedwar o blant oedd yn perthyn iddyn nhw.

Dywedodd Gweinidog Capel y Priordy, y Parchedig Beti Wyn James, fod y newyddion wedi "ypsetio ni'n fawr iawn - fod e wedi effeithio rhywun mor agos i adre'".