Y winllan wlân sy'n rhoi canlyniadau 'rhyfeddol'

Dydy gwlân a gwin ddim yn ddau beth sydd fel arfer yn cael eu cysylltu gyda'i gilydd.

Ond gallai hynny fod ar fin newid diolch i brosiect newydd mewn gwinllan yng ngogledd Cymru.

Yng Ngwinllan Conwy ger Mochdre maen nhw'n gosod cnu neu got wlân defaid o amgylch gwreiddiau'r gwinwydd.

Yn ôl perchennog y winllan, mae'r canlyniadau cychwynnol yn "rhyfeddol".

DARLLENWCH: Gwlân yn lle cemegau i greu gwin o well safon?