Gwlân yn lle cemegau i gynhyrchu gwin o well safon?
- Cyhoeddwyd
Dydy gwlân a gwin ddim yn ddau beth sydd fel arfer yn cael eu cysylltu gyda'i gilydd.
Ond gallai hynny fod ar fin newid diolch i brosiect newydd mewn gwinllan yng ngogledd Cymru.
Yng Ngwinllan Conwy ger Mochdre maen nhw'n gosod cnu neu got wlân defaid o amgylch gwreiddiau'r gwinwydd.
Yn ôl perchennog y winllan, mae'r canlyniadau cychwynnol yn "rhyfeddol".
"Y gwir amdani yw, yn y diwedd, rydyn ni'n cael gwin gwell ers gwneud hyn," meddai Colin Bennett.
Nod Colin a Charlotte yw troi'r winllan yn un organig. Maen nhw'n gobeithio y bydd hynny nawr yn bosib trwy ddefnyddio'r cnu yn lle cemegau.
"Rydym wedi cael gwared ar lawer o'r trafferthion a'r gwaith caled o gynnal a chadw sydd yn dod gyda pherchen ar winllan, heb orfod defnyddio llawer o gemegau."
Ac mae yna mwy o fanteision eto yn ôl Colin.
'Gwin o safon uwch'
Ychwanegodd fod y cnuoedd gwlân "wedi helpu i gadw'r tir yn llaith, atal plâu dinistriol fel gwlithod, ac mae'r gwlân gwyn yn adlewyrchu golau'r haul yn ôl ar y gwinwydd".
Ac mae'r olaf o'r manteision yna yn arbennig i'w groesawu, meddai.
"Mae'r golau haul ychwanegol yn helpu'r grawnwin aeddfedu, sy'n golygu mwy o alcohol yn y gwin, ac mae hynny'n golygu gwinoedd o safon uwch."
Mae Mr Bennett yn credu mai dyma'r winllan gyntaf ym Mhrydain i drio'r dull hwn o dyfu grawnwin.
Daeth yr awgrym gwreiddiol i ddefnyddio gwlân ar winwydd gan y ffermwr adnabyddus Gareth Wyn Jones.
Cafodd y syniad ar ôl arbrofi gyda gwlân ar ei fferm.
Dywedodd: "Dipyn o flynyddoedd yn ôl o'n i'n gweld ein bod ni'n cael dim byd [o ran arian] am ein gwlân ni ar y fferm.
"Felly penderfynais ddefnyddio'r gwlân ar ein hardal tyfu llysiau ag i ni weld y budd.
"Yn y gaeaf roedd y gwlân yn cadw'r rhew oddi ar y pridd, roedd o'n cadw'r chwyn i lawr a phryfed fatha malwod a gwlithod i ffwrdd."
'Chwerthin am fy mhen!'
Rhannodd Gareth ei brofiad gyda Colin a Charlotte Bennett ar ôl ymweld â'r safle a chlywed rhai am rai o'u trafferthion.
"Dwi'n gweithio i'r CLA [Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad] a gwnaethon nhw ofyn i fi ddod yma i roi gwobr i Colin a Charlotte am y lle gore' i yfed a bwyta yng Nghymru.
"Wedyn gwnaethon nhw roi taith fach i ni o amgylch y safle a dyma Colin yn dechrau sôn am y problemau roedden nhw'n cael gyda rhoi chwynladdwyr lawr, a lot o waith cynnal a chadw gyda'r winllan.
"Felly gofynnais iddo a oedden nhw wedi ystyried defnyddio gwlân. Am mod i 'di cael un neu ddau yn ormod o win gwnaethon nhw chwerthin ar fy mhen i!
"Ond, 'nes i dd'eud 'bore 'fory 'na i droi fyny gyda dau fag o wlân' a des i â 100 o gnu iddo fo a gwnaeth o drio fo yn un rhan o'r winllan, a 'da ni ddim wedi sbïo 'nôl.
"Mae'n un o'r pethau gorau sydd 'di digwydd i'r winllan ac i ni."
Mae gan Gareth ddiddordeb personol yn llwyddiant y prosiect yma.
Mae ei fab, Sior, wedi helpu i ddod o hyd i'r cnuoedd sy'n cael eu defnyddio yn y winllan, ac mae'n gobeithio y bydd yn ffordd newydd o ychwanegu gwerth at y gwlân.
Ar hyn o bryd, mae'n costio tua £1.50 i gneifio dafad, ond mae'r cnuoedd gwerth ceiniogau yn unig.
Ond mae Sior wedi gallu gwerthu eu gwlân i'r winllan am tua £1 yr un.
Mae'n golygu y gellir adennill dwy ran o dair o'r gost o gneifio, ac mae'n cynyddu gwerth y cnu Cymreig sy'n weddill.
"Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr Prydain yn cneifio ar golled," meddai Sior.
"Os gallwn dynnu rhai cnu oddi ar y farchnad, codi ymwybyddiaeth o ba mor anhygoel ydy gwlân, a dod â gwerthoedd traddodiadol yn ôl i amaethyddiaeth byddai hynny'n wych."
Dywedodd perchennog y winllan fod helpu'r diwydiant ffermio yn rhan allweddol o'i weledigaeth.
"Dyna'r darlun ehangach," meddai Colin Bennett.
"Rwy'n talu pris teg am y gwlân, ac mae tua 900 o winllannoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.
"Os gallwn ni gyflwyno hyn i weddill y DU, mae'n mynd i fod o fudd enfawr i ffermwyr defaid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2017