Ysgol Gymraeg ar-lein yn lansio i blant tu hwnt i Gymru

Bydd plant a phobl ifanc yn gallu dysgu neu ymarfer eu Cymraeg o unrhyw le yn y byd gydag ysgol Gymraeg ar-lein.

Mae Ysgol Sadwrn yn fenter newydd i gynnig gwers wythnosol i blant rhwng tair oed a 14 oed sy'n byw tu hwnt i Gymru.

Fe gafodd Sioned Rees Jones ei sbarduno gan brofiad ei mab, pan oedd y teulu'n byw yn Llundain, o deimlo'n "unig" wrth gael gwersi Cymraeg.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd mai'r nod yw "meithrin cymuned ddysgu byd eang" fel y gall plant ddod at ei gilydd i ddysgu.