'Hollol wych' cael statws Noddfa Awyr Dywyll i Ynys Enlli

Mae'n "hollol wych" fod Ynys Enlli wedi ennill statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol, yn ôl y warden sy'n edrych ar ôl yr ynys.

Bu Mari Huws yn casglu data ar olau a thywyllwch ar yr ynys, er mwyn cefnogi'r cais am yr ardystiad.

Enlli yw'r lle cyntaf yn Ewrop i sicrhau'r statws rhyngwladol, ac mae'n un o 16 safle yn unig drwy gydol y byd.

Mae gan Gymru sawl safle a gwarchodfa awyr dywyll, ond mae'r statws Noddfa yn un llawer anoddach i'w gael, ac ond yn cael ei roi i rai o'r llefydd tywyllaf a mwyaf anghysbell yn y byd.

DARLLENWCH: Statws Awyr Dywyll yn 'gamp anhygoel' i Ynys Enlli