Statws Noddfa Awyr Dywyll yn 'gamp anhygoel' i Ynys Enlli

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mari Huws: "Mae'n hollol wych cael y statws yma i Enlli"

Mae Ynys Enlli, oddi ar arfordir Llŷn, wedi'i chydnabod yn swyddogol fel un o'r llefydd gorau yn y byd i edrych ar yr awyr yn y nos.

Mae wedi ei dynodi yn Noddfa Awyr Dywyll, y statws uchaf all y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) ei roi.

Enlli yw'r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws o'r fath, ac mae'n ymuno ag 16 safle arall drwy'r byd sy'n cael eu cydnabod am fod yn anghysbell a thywyll.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth sy'n berchen ar yr ynys, mae'n "gamp anhygoel" ac yn "benllanw ar flynyddoedd o waith caled".

Mae gan Gymru sawl cymuned a gwarchodfa Awyr Dywyll, ond mae noddfeydd yn llawer mwy prin ac mae yna feini prawf llym o ran ansawdd awyr y nos.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, maen nhw'n gobeithio bydd y statws newydd yn codi proffil yr ynys yn ogystal â sefydlu Cymru fel "cenedl awyr dywyll".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y statws yn codi proffil yr ynys, medd Sian Stacey

Dywedodd Sian Stacey, cadeirydd yr ymddiriedolaeth: "Heb unrhyw amheuaeth mi fydd gweld Ynys Enlli yn derbyn y statws pwysig yma yn codi proffil yr ynys fel llecyn unigryw yng Nghymru ac ymhlith y gorau yn y byd i werthfawrogi awyr y nos.

"Gobeithio hefyd y bydd yn mynd yn bell o ran sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr ynys."

Mae'r ynys wedi'i lleoli ddwy filltir ar draws y Swnt o Ben Llŷn, ac mae ei lleoliad a'i nodweddion daearyddol yn ei gwneud hi'n un o'r mannau tywyllaf yn y DU.

Mae'r golau o'r tir mawr yn cael ei gyfyngu gan fynydd Enlli a'r llygredd golau mawr agosaf yn dod o Ddulyn, 70 milltir i ffwrdd dros Fôr Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Steve Porter
Disgrifiad o’r llun,

Statws Noddfa Awyr Dywyll yw'r statws uchaf all y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) ei roi

Mae poblogaeth Ynys Enlli wedi amrywio dros y canrifoedd a thystiolaeth yn awgrymu bod pobl wedi byw yno mor bell yn ôl â'r Oes Efydd.

Erbyn hyn, mae'n gartref i gymuned fechan o drigolion sy'n gweithio'r tir ac yn pysgota o'r ynys.

Mae yna 10 bwthyn ar gyfer ymwelwyr sy'n dod ar eu gwyliau, gyda theithiau'n cael eu caniatáu yno rhwng misoedd Mawrth a Hydref.

'Syfrdanu gan yr harddwch'

Dywedodd Mari Huws, un o wardeiniaid yr ynys a fu'n gweithio ar y cais am y statws: "Fel rhywun sy'n byw yma, rydw i wastad yn cael fy syfrdanu gan harddwch yr ynys - ac mae awyr y nos yn rhan fawr o hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mari Huws: 'Braint gallu gweithio tuag at ddiogelu rhywbeth mor arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol'

"Yn dilyn sicrhau'r dynodiad newydd, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r ynys dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i ni fedru rhannu ein stori unigryw gyda nhw.

"Mewn byd sy'n wynebu llygredd cynyddol, mae'n fraint gallu gweithio tuag at ddiogelu rhywbeth mor arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Bydd y dynodiad newydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, a bydd Ms Huws yn gorfod cymryd mesuriadau pan fo amodau'n ffafriol a chadw cofnod ohonynt.

Roedd rhaglen bedair blynedd wedi'i chynnal fel rhan o'r cais i fonitro ansawdd awyr y nos mwyn dangos ei bod yn ddigon tywyll.

Roedd yr IDA hefyd yn gofyn am gynllun rheoli golau yn ogystal â thystiolaeth ffotograffig er mwyn cytuno i'r dynodiad.

'Rhywbeth arbennig iawn i Gymru'

Yn ôl Menna Jones, Rheolwr Datblygu Enlli, bydd y statws yn help i ddenu buddsoddiad i'r ynys a'r ardal leol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd llygaid y byd ar Ynys Enlli, medd Menna Jones

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig bod cymunedau bach a llefydd diarffordd sydd yn gwneud gwaith pwysig yn amgylcheddol yn cael buddsoddiadau.

"Dyma'r prosiect cyntaf dwi'n gobeithio fydd yn arwain at bod ni'n gallu gwarchod a datblygu y gymuned a'r adeiladau a hefyd wrth gwrs cydweithio efo cymunedau ar y tir mawr.

"'Da ni'n awyddus iawn i fod yn gwella ac addasu'r adeiladau fel bod ni'n cadw beth sy'n arbennig am yr ynys, ond bod ni hefyd yn gallu rhoi bach mwy o gyfforddusrwydd i bobl sy'n dod yma.

"Dwi'n siwr bydd golygon pobl ar ba mor unigryw ydy'r dynodiad yma a bod e'n rhywbeth arbennig iawn i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Emyr Owen

Daw dynodiad newydd Enlli wrth i lygredd golau barhau i gynyddu ar draws y byd.

Dros y 12 mlynedd diwetha' mae awyr y nos wedi goleuo 10% bob blwyddyn sydd, yn ôl astudiaeth fydeang ddiweddar, yn golygu bod plentyn sy'n cael ei eni mewn ardal ble'r oedd modd gweld 250 o sêr ond yn gweld llai na 100 yn yr un safle 18 mlynedd yn ddiweddarach.

Pynciau cysylltiedig