Yr olygfa wrth i eira ddisgyn ar yr A489 ger Machynlleth
Mae rhannau o Gymru wedi gweld eira am yr ail ddiwrnod, wrth i'r gogledd a'r canolbarth ddeffro fore Iau i effaith y tywydd garw.
Mae rhybuddion melyn am eira a rhew mewn grym i'r rhan fwyaf o Gymru, a rhybudd oren newydd mewn grym tan 09:00 ddydd Gwener i siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai cerbydau fynd yn sownd ar rai ffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gyda rheilffyrdd yn cael eu heffeithio hefyd.
Dyma oedd yr olygfa wrth yrru ar hyd yr A489 ger Machynlleth fore Iau.