Rhybudd oren wrth i eira a rhew gyrraedd y gogledd
- Cyhoeddwyd

Roedd ardal Llanbrynmair yn y canolbarth dan flanced o eira fore Iau
Mae rhybudd oren am eira a rhew mewn grym o ganol ddydd Iau wrth i dywydd gaeafol gyrraedd y gogledd.
Mae cannoedd o ysgolion eisoes ynghau ar draws Cymru unwaith eto ddydd Iau, yn bennaf yn y gogledd a'r canolbarth, yn dilyn eira dros nos.
Daw hynny yn dilyn diwrnod o eira yn y de ddydd Mercher oedd wedi arwain at ysgolion yn cau.
Syrthiodd hyd at 10cm o eira a'r tymheredd isaf gafodd ei gofnodi oedd -4.2C yng Nghapel Curig, Eryri.
Yr olygfa fore Iau ar ffordd yr A489 ger Machynlleth ym Mhowys
Mae rhybuddion melyn am eira a rhew mewn grym i fwyafrif y wlad, a'r rhybudd oren newydd mewn grym tan 09:00 ddydd Gwener i siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.
Mae pob ysgol yn Wrecsam ar gau, dros 80 o ysgolion ar gau yn Sir y Fflint, a dros 60 ynghau yn Sir Powys fore Iau.
Mae nifer hefyd ar gau yn Sir Ddinbych, Sir Conwy, Gwynedd, Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Sir Conwy.
Yn Sir y Fflint, mae'r cyngor wedi penderfynu cau holl ysgolion y sir ddydd Gwener hefyd.

Yr olygfa yn Ysbyty Ystwyth, Ceredigion fore Iau wedi i'r eira ddisgyn dros nos

Mae'r rhybudd oren mewn grym o 12:00 ddydd Iau tan 09:00 fore Gwener a rhybudd melyn i nifer o siroedd Cymru
Fe allai hyd at 20cm o eira syrthio ar dir uchel, yn enwedig yn y gogledd a'r canolbarth, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'r Swyddfa'n rhybuddio am "drafferthion sylweddol" oherwydd eira yn y gogledd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer arfordir Cymru yr holl ffordd o Lannau Dyfrdwy yn y gogledd ddwyrain, i Aberteifi ym Mae Ceredigion.
Fe ddywedon nhw y gallai llifogydd ddigwydd ar dir isel, gan rybuddio pobl i fod yn ofalus ger yr ardordir.

Mae 17 o ysgolion wedi eu cau yn Sir y Fflint oherwydd yr eira, a'r amodau ar y ffyrdd fore Iau yn beryglus

Gorsedd, Sir y Fflint, yn yr eira fore Iau
'Wedi osgoi'r gwaethaf'
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ei bod wedi bwrw eira yno fore Iau ond nad oedd yr amodau gynddrwg â'r disgwyl.
"'Dan ni wedi osgoi'r tywydd gwaetha'," dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi.
"Mae hi 'di dechra' bwrw eira yma ers tua 07:00 ond y diweddariad ges i wrth y criw fuodd allan dros nos oedd bod hi 'di bod yn noson gwell nag oeddan nhw'n disgwyl.
"O'dd y rhagolygon ddoe yn edrych yn debyg ein bod ni'n ffodus iawn o'i osgoi o o'i gymharu ag ardaloedd eraill yn y gogledd."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r Swyddfa yn rhybuddio y gallai cerbydau fynd yn sownd ar rai ffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gyda rheilffyrdd yn cael eu heffeithio hefyd.
Fore Iau fe rybuddiodd Traffig Cymru fod amodau gyrru gwael ar draffordd yr M4.
Mae nifer o ffyrdd yn y gogledd, gan gynnwys yr A458 rhwng Y Trallwng a Mallwyd, hefyd ar gau, a gwasanaethau bws wedi eu effeithio o ganlyniad.

Yr olygfa dros yr Afon Dyfrdwy yn ardal Carrog, Sir Ddinbych ddydd Iau

Golygfa aeafol wrth fynd am dro yng nghaeau Llanidloes, Powys, fore Iau

Dadansoddiad cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Llŷr Griffiths-Davies
Yn ystod prynhawn dydd Iau mi ddylai hi droi ychydig yn fwynach, gyda glaw trwm ar draws y canolbarth a'r de.
Nos Iau bydd rhagor o eira, yn arbennig ar draws y gogledd a'r canolbarth erbyn oriau mân bore dydd Gwener.
Mi fydd y glaw a'r eira'n ymledu tua'r de yn ystod y bore, ond mi ddylai'r glaw glirio tipyn o'r eira fydd wedi cronni.
Yn ystod bore dydd Gwener, mi ddylai'r glaw a'r eira glirio, gan godi'n ddiwrnod heulog ar draws y wlad.
Mae'n gynnar i roi rhagolygon manwl ar gyfer y penwythnos, ond mae'r rhagolygon cynnar yn awgrymu y gallai ychydig o eira ddisgyn yn ystod oriau mân fore Sadwrn, wrth i law ymledu o'r de-orllewin.

A oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023