'Ynys Môn yn edrych fel ei bod wedi torri'i chysylltiad'

Mae sefyllfa unigryw Môn, sydd ond gyda dwy lôn bob ffordd i mewn ac allan o'r ynys, yn pryderu cynghorwyr lleol.

Yn sgil penderfyniad i roi stop ar gynlluniau am drydedd bont mae'r cyngor sir wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lansio adolygiad brys o gysylltiadau presennol Ynys Môn gyda'r tir mawr.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd arweinydd y cyngor sir, Llinos Medi: "Mae o hefyd yn gwneud i unigolion gysidro os ydy Môn yn addas iddyn nhw fyw achos os wyt ti yn gweithio - boed yn y brifysgol neu'r ysbyty ym Mangor neu rhywle ar y tir mawr - mae cael unrhyw bryderon am gyrraedd dy fan gwaith yn her.

"Felly mae o wedi cael effaith ar ddelwedd Ynys Môn, ond da ni byth isio bod mewn sefyllfa i edrych fel fod Ynys Môn ar gau eto."

Mewn ymateb dywed Llywodraeth Cymru fod Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn ystyried cysylltiadau presennol yr ynys a bydd yn adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.