Canslo pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo gan Lywodraeth Cymru.
Ni fydd y cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros Afon Menai felly'n cael eu gwireddu, na chynlluniau dadleuol y Llwybr Coch ar yr A494 yn Sir y Fflint.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi canmol y llywodraeth am fod yn "ddewr ac ar flaen y gad".
Ond mae rhai yn y diwydiant adeiladu yn dweud y gallai roi swyddi mewn perygl.
'Gosod y bar yn uwch'
Daw'r penderfyniad fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, yn dilyn adolygiad am flwyddyn oedd yn ystyried pa gynlluniau ddylai fynd yn eu blaenau.
Dywedodd y llywodraeth nad oedd hynny'n golygu diwedd llwyr ar y posibiliad o drydedd pont, dim ond nad oedd y cynlluniau presennol yn mynd yn eu blaenau.
Ychwanegodd y llywodraeth y bydd yn rhaid i bob cynllun ffordd yn y dyfodol gyrraedd gofynion llym, fel nad ydyn nhw'n cynyddu allyriadau carbon a chynyddu nifer y cerbydau ar y ffyrdd.
Ni ddylen nhw chwaith arwain at geir yn teithio'n gyflymach, ac ni ddylen nhw gael effaith negyddol ar yr ecoleg leol.
Yn ôl y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: "Wnawn ni ddim cyrraedd Net Sero os nad ydyn ni'n rhoi'r gorau i wneud yr un peth dro ar ôl tro."
Mae'r gweinidog yn benderfynol y bydd lonydd newydd yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol, ond eu bod yn "gosod y bar yn uwch".
Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cynnal adolygiad ffyrdd.
Fe wnaeth panel o arbenigwyr, oedd yn cael eu harwain gan Dr Lynn Sloman MBE, asesu 59 prosiect ac maen nhw wedi gwneud argymhellion ar ba gynlluniau fydd yn parhau, pa rai fydd ddim a pha rai fydd yn cael eu hailystyried mewn ffurf amgen.
Bydd 15 o'r prosiectau yn parhau, ac mae'r gweddill i gyd wedi eu gwrthod neu eu hadolygu.
Ond bydd rhaid i bob cynllun yn y dyfodol gyrraedd meini prawf llym y llywodraeth.
Ni fydd y llywodraeth yn ystyried prosiect newydd os nad yw'n:
Lleihau allyriadau carbon a chefnogi'r symudiad i drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio;
Gwella diogelwch;
Helpu'r llywodraeth i addasu i effeithiau newid hinsawdd;
Cysylltu pobl â swyddi neu ardaloedd o ddatblygiad economaidd mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu seiclo.
Pa lonydd sydd wedi'u gwrthod?
Mae cynlluniau am drydedd bont ar draws Y Fenai wedi eu cyfnewid am adolygiad i edrych ar wella tagfeydd a gwytnwch y pontydd presennol, yn ogystal â chael pobl i ddefnyddio ffyrdd amgen o deithio.
Mae'r cynllun dadleuol am Llwybr Coch (Red Route) yn Sir y Fflint wedi ei wrthod. Yn hytrach, bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i'r A494 yn Aston Hill.
Ni fydd gwelliannau i'r A483 o amgylch Wrecsam yn digwydd chwaith, a bydd adolygiad tebyg i leihau defnydd ceir.
Pa lonydd fydd yn cael eu cwblhau?
Bydd rhai prosiectau llai yn dal i gael eu gwireddu.
Mae'r mwyaf o'r rheiny ar goridor yr A4042 rhwng Pont-y-pŵl a'r M4 drwy Dorfaen.
Bydd yr A487 rhwng Abergwaun ac Aberteifi hefyd yn mynd yn ei flaen, yn ogystal â gwelliannau i'r A4076 yn ardal Hwlffordd.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu'r cyhoeddiad, gyn ei alw'n flaengar a dewr.
Dywedodd Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear fod yr "adroddiad arloesol yma yn chwa o awyr iach sy'n addewid o ddyfodol gwyrddach a thecach i drafnidiaeth yng Nghymru".
"Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dangos eu bod o ddifri' am daclo'r argyfwng hinsawdd," meddai.
"Rhaid i ni dorri'r patrwm o adeiladu mwyfwy o ffyrdd ar gyfer rhagor o geir - mae hyn dim ond yn arwain at ragor o dagfeydd, llygru ein aer, a chynyddu'r allyriadau sy'n dinistrio'n hinsawdd.
"Er mwyn y blaned a'n iechyd, mae angen buddsoddi mewn gwell llwybrau cerdded a beicio, a gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus llawer iawn gwell hyd a lled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i'w wneud yn haws i bobl adael y car adre."
Galw am eglurder
Ond mae'r diwydiant adeiladu yn poeni y bydd swyddi'n cael eu heffeithio, ac maen nhw'n galw ar y llywodraeth i roi eglurder iddyn nhw ar fuddsoddiadau mewn isadeiledd.
Yn ôl Ed Evans, cyfarwyddwr Cymdeithas y Contractwyr Peiriannaeth Sifil: "Mae hwn yn gyhoeddiad anferth, does dim dwywaith am hynny, ac mae wedi creu ansicrwydd.
"Mae'n rhaid i ni ddechrau cael eglurder ar fuddsoddiadau mewn isadeiledd, os ydy hynny'n gwella'r hyn sydd gennym ni neu yn buddsoddi mewn egni er enghraifft.
"Mi eith hynny'n bell i ddiogelu swyddi, busnesau a chymunedau."
Dywedodd Christine Boston o elusen teithio amgen Sustrans: "Os ydyn ni am gymryd her yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, mae angen i ni symud tuag at fod yn gymdeithas sy'n galluogi teithio amlfodd.
"Os ydyn ni eisiau pobl i gerdded, olwyno, neu seiclo ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus, yna mae angen buddsoddiad parhaol mewn gwella isadeiledd sy'n cynorthwyo hynny."
Mae sioc wedi bod i'r penderfyniad ar Ynys Môn, wedi i ddogfen Llywodraeth Cymru fis Rhagfyr ddatgan fod trydedd bont dros Afon Menai yn "debygol" o gael ei gwireddu erbyn 2030.
Er bod yr adolygiad wedi awgrymu yn erbyn y cynlluniau, mae'n cydnabod fod "tagfeydd a diffyg cadernid y croesfannau yn gwneud Ynys Môn yn gyrchfan llai deniadol ar gyfer buddsoddi, gan gyfyngu ar botensial economaidd y dyfodol".
Mae Rhian Sinnott yn rhedeg siop Cain yn Llangefni, ac yn dweud y byddai trydedd bont yn "help garw" i fusnesau ar yr ynys.
"Yn bendant mae isio ar ôl be' sydd wedi digwydd efo'r un bont yn cau, a 'mond un yn agored," meddai.
"Mae 'di bod yn drafferth i lot o bobl sydd eisiau croesi i fynd i'r gwaith yn y bore, yn enwedig i ddod 'nôl hefyd."
"Yn enwedig pan mae un ar gau, mae'r byd ar ben wedyn. Mae'n job croesi."
"Pan mae pobl eisiau croesi i ddod yma, maen nhw'n cymryd mwy o amser, ac efallai fod rhai yn penderfynu peidio dod."
Yn ôl Hughie Roberts o gwmni tacsis PG Cars yn Llanfairpwll, mae'r traffig rhwng Môn a'r tir mawr wedi gwaethygu yn sylweddol ers iddo ddechrau gyrru tacsi dros 16 mlynedd yn ôl, ac mae'n cael effaith ar ei fusnes.
"Weithiau 'da chi'n cael rhai ddim yn hapus bo' chi'n hwyr yn cyrraedd y lle, ac yn gweld bai arnoch chi," meddai.
"Mae'r meter yn mynd i fyny, wedyn mae pobl leol yn ddweud 'mae'n ddrud!' ond fedrai'm gwneud dim byd yn ei gylch o."
Mae'r penderfyniad i beidio adeiladu trydedd bont yn ei adael yn "ddigalon"," meddai.
"Dydi'r traffig 'ma ddim yn mynd i stopio. Maen nhw'n mynd i ddal i ddod.
"Mae mwy a mwy yn dal i ddod, a dwi ddim yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd."
Mae'r teimladau yn fwy cymysg yn Sir y Fflint yn dilyn y penderfyniad i gefnu ar gynllun Llwybr Coch yr A494.
Mae Robert Hodgkinson yn ffermio Ty'n y Coed ger Llaneurgain, ac fe fyddai'r ffordd newydd wedi mynd yn syth trwy ei dir.
"Mae'n gymaint o ryddhad cael synnwyr cyffredin o'r diwedd ym myd gwleidyddiaeth," meddai.
"Mae hyn wedi bod dros ein pennau ni ers cymaint. 'Dw i wedi cael digon o siarad am y peth rŵan."
Ond mae gwleidyddion lleol wedi bod yn feirniadol iawn o'r penderfyniad, gan gynnwys arweinydd Cyngor Sir y Fflint.
"Mae Sir y Fflint yn brif ffordd i ogledd Cymru, ac mae bregusrwydd y ffyrdd a thagfeydd cyson yn amharu ar dwf economaidd a thwristiaeth, ac yn cael effaith negyddol ar iechyd ein trigolion," meddai Ian Roberts.
"'Dan ni angen pecyn o fesurau a buddsoddiad er mwyn lleddfu effaith tagfeydd ar yr economi leol, a gwella safon aer mewn mannau fel Queensferry a Shotton.
"'Dan ni angen buddsoddi yn isadeiledd a gwasanaethau trafnidiaeth yn ein sir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021