Canser y coluddyn: 'Dim angen teimlo embaras'

Mae ffigyrau gan elusen Bowel Cancer UK yn dangos nad yw 34% o bobl Cymru yn gallu enwi'r un o symptomau canser y coluddyn.

Roedd y ffigyrau hefyd yn awgrymu na fyddai'r mwyafrif yn gwneud apwyntiad meddyg tasen nhw'n dioddef rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin.

Bu Guto Roberts, sydd wedi cael canser y coluddyn, yn sôn am ei brofiad ar Dros Frecwast ar fis codi ymwybyddiaeth o'r canser.

Cafodd Mr Roberts, o'r Felinheli, ddiagnosis o'r canser yn 2020 ag yntau'n 40 oed.