Ehangu sgrinio canser y coluddyn i 'achub bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe gollodd Gwenno Eyton Hodson ei chwaer, Carys, i ganser y coluddyn y llynedd

Mae dynes a gollodd ei chwaer i ganser y coluddyn wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth Cymru i ehangu sgrinio ar gyfer y clefyd fel cam "hollbwysig" fydd yn "achub bywydau".

O ddydd Mawrth ymlaen bydd pawb sy'n 55 oed a hŷn yn gymwys i dderbyn profion cartref i sgrinio am ganser y coluddyn yn dilyn buddsoddiad gan y llywodraeth.

Bydd mwy na 170,000 yn rhagor o bobl yn gymwys am y prawf, gyda'r nôd hir dymor o ostwng y trothwy i 50 oed mewn ymgais i ddal yr afiechyd yn gynnar.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru wedi ei groesawu gan deulu Carys Evans, fu farw o ganser y coluddyn y llynedd yn 41 oed.

'Meddwl bod dim byd mawr yn bod'

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, roedd Carys wedi ymgartrefu ym Mrynbuga ac wedi priodi a chael dwy o ferched - Mari a Haf.

Yn ôl ei theulu roedd ei diagnosis yn sioc llwyr.

"Mi oedd Carys wedi colli pwysau," meddai ei chwaer, Gwenno Eyton Hodson.

"Mi oedd hi wedi bod yn flinedig ofnadwy, roedd ganddi boen yn ei bol a doedd hi'm yn meddwl bod dim byd mawr yn bod.

"Ddaru hi ddim mynd yn syth. Ddaru hi ddisgwyl efallai ychydig o wythnosau cyn gweld y GP."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carys ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4

Ar ôl cael prawf gwaed a phrofion ychwanegol, fe gafodd Carys ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4.

"Ddaru hi ffonio fi ac mi oedd o'n andros o glec," meddai Gwenno.

"Yn 41, ac yn cael diagnosis cam 4, mi oedd o'n ofnadwy ac yn anodd i'w brosesu."

'Cael gwared â'r stigma'

Yn ystod ei salwch fe wnaeth Carys gadw'n bositif hyd y diwedd, gan godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr drwy flogio a cheisio chwalu stigma.

Ond bron i flwyddyn ers ei diagnosis, bu farw o'r salwch.

"Trio cael gwared â'r stigma sydd o'i gwmpas oedd hi, codi arian a bod yn fwy amlwg ar y cyfryngau," meddai ei chwaer, Gwenno.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diagnosis Carys Evans, 41, o ganser y coluddyn yn sioc iddi hi a'i theulu

Tan yn ddiweddar, dim ond unigolion oedd yn 58 oed ac hŷn oedd yn derbyn profion sgrinio yn awtomatig gan y Gwasanaeth Iechyd.

Ond mae'r oedran bellach wedi ei ostwng i 55, gyda chynllun i'w ostwng ymhellach i 50 erbyn 2024 wedi i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £16m i gyflwyno profion newydd.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, mae'r cam am sicrhau y bydd mwy o achosion o ganser y coluddyn yn cael eu dal yn gynnar.

"Rwy'n falch o weld bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen a bod y cyfraddau sy'n manteisio ar y profion sgrinio nawr yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig," meddai.

"Yn y dyfodol, rydym ni'n bwriadu parhau i wella'r rhaglen drwy ostwng yr ystod oedran i 50 a gwella sensitifrwydd y prawf nes y byddwn yn cyd-fynd ag argymhellion y DU."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nôd ehangu sgrinio yw "sicrhau y bydd mwy o achosion o ganser y coluddyn yn cael eu dal yn gynnar"

Mae ymchwil yn dangos bod naw allan o bob 10 person yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddarganfod a'r drin yn gynnar.

I Gwenno a'r teulu, mae gostwng yr oedran sgrinio yn gam pwysig.

"Mae'n hollbwysig bod pobl yn gallu cael y cyfle... wel i fod yn onest, i achub eu bywyd mewn ffordd mor syml," meddai.

Er na fyddai Carys wedi bod yn gymwys a hithau ond yn 41 oed, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir meddai ei theulu.

"'Da ni'n teimlo bod Carys wedi gwneud andros o lot, bod ei bywyd hi heb fod yn ofer, bod y neges oedd hi'n trio'i chyfleu wedi cael ei chlywed a ma' hynna'n bwysig iawn i ni."

Pynciau cysylltiedig