'Methu planio am 16 awr heb gyfleusterau'
Mae staff ysgolion sydd ar dripiau sgïo o Gymru i'r cyfandir wedi bod yn sôn am yr amodau anodd oedd yn wynebu plant oherwydd oedi hiraeth ym mhorthladdoedd de ddwyrain Lloegr.
Erbyn hyn mae'r amseroedd oedi ym mhorthladdoedd fel Dover a Folkestone wedi gwella.
Ymhlith y rhai oedd yn sownd oedd disgyblion Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff o Wrecsam.
Yn ôl Kaeti Breward, sy'n athrawes ymarfer corff yn Ysgol San Joseff, roedd eu bws ym mhorthladd Folkestone mewn "holding bay am wyth awr heb ddim gwybodaeth a neb yn dweud dim byd wrtha ni".