Sownd am oriau mewn porthladd yn 'hollol hunllefus'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Kaeti Breward: 'Fedrwch chi ddim planio am 16 awr heb gyfleusterau'

Mae staff ysgolion o Gymru sydd ar dripiau sgïo yn Ewrop wedi bod yn sôn am yr amodau anodd oedd yn wynebu plant oherwydd oedi hir ym mhorthladdoedd de-ddwyrain Lloegr.

Erbyn hyn mae'r amseroedd oedi yn Dover a Folkestone wedi gwella.

Ond dywedodd un athrawes o ysgol uwchradd o ardal Wrecsam fod y diffyg cyfathrebu dros y penwythnos yn "ddifrifol".

Roedd y plant ond wedi cael cynnig un siocled KitKat yr un gan gwmni teithio P&O yn Folkestone, meddai, ar ôl 16 awr o fod yn sownd.

Bellach mae plant Ysgol Uwchradd Sant Joseff Wrecsam wedi cyrraedd eu lleoliad sgïo yn Ffrainc.

'Sefyllfa wedi gwella'

Roedd Dover a phorthladdoedd eraill wedi gweld oedi o hyd at 17 awr ac mae'r rheolwyr wedi ymddiheuro i'r cwsmeriaid a diolch iddynt am eu hamynedd.

Yn ôl yr awdurdodau roedd y bai ar brosesu araf wrth groesi'r ffin ryngwladol a mwy o deithiau na'r disgwyl.

Erbyn hyn mae'r sefyllfa wedi gwella ac yn ôl i'r arfer, medd rheolwyr porthladd Dover.

Yn ôl Kaeti Breward, sy'n athrawes ymarfer corff yn Ysgol Sant Joseff, roedd eu bws ym mhorthladd Folkestone mewn "holding bay am wyth awr heb ddim gwybodaeth a neb yn dweud dim byd wrtha ni".

"Doedd dim lle bwyd, a prin oedd y toiledau - y toiledau oedd yna wedi cael eu defnyddio cannoedd a channoedd o weithiau dros nos," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

Yna bu'n rhaid i'r bws symud i fan arall, cyn cael mynediad i'r porthladd ac yna roedd oedi pellach am wyth awr, meddai.

"Dim bwyd a dim diod - oedden ni wedi dweud i'r plant i ddod â phethau - ond allwch chi ddim planio am 16 awr heb gyfleusterau.

"Dwi'n meddwl 'nath P&O roi KitKat i bawb tua hanner nos ond hynny oedd gyd gafon ni.

"Yr unig gyfathrebu gafon ni oedd ar Trydar, ac oedd y petha oedden nhw'n ddeud ddim beth oedd realiti o ran beth oedd yn mynd ymlaen yn y porthladd.

"O'n i'n teimlo mor bechod dros y plant... oedd o just yn sefyllfa hollol, hollol hunllefus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disbyglion Ysgol Gyfun Gwynllyw bellach ar eu ffordd i Awstria

Erbyn bore Llun, ar ôl oedi hir, roedd plant a staff Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl wedi cyrraedd y cyfandir ac ar eu ffordd i Munich ac yna Awstria.

Dywedodd Gwyn Rosser, un o'r athrawon ar y daith, wrth Dros Frecwast ei bod yn debyg y byddan nhw'n colli diwrnod o sgïo.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwyn Rosser, un o athrawon Ysgol Gyfun Gwynllyw, ei bod wedi bod yn daith hir

"Mae'r plant wedi derbyn y sefyllfa a ma' nhw wedi bod yn grêt," meddai.

"Ond doedd braidd dim gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i ni [yn y porthladd].

"Gaethon ni un person o'r cwmni yn dod atom ni drwy gydol y dydd i ddweud o nhw'n ceisio eu gorau.

"Oedd e'n llanast llwyr yna, yn ystod y ciwio a bu'n rhaid i ni ffeindio bwyd ein hunain, a dim ond darparu dŵr wrth fynd drwy passport control natho nhw. Doedd dim lot o siâp 'na."

Pynciau cysylltiedig