Ceir yn cael eu towio i ffwrdd ger Pen-y-pass yn Eryri

Mae heddlu'r gogledd wedi rhybuddio pobl i barcio'n gyfrifol wrth ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri dros wyliau'r Pasg.

Dywedodd y llu y gallai parcio'n anghyfrifol rwystro'r gwasanaethau brys rhag pasio.

Ddydd Gwener roedd lorïau eisoes i'w gweld yn symud ceir o ymyl y ffordd yn ardal maes parcio Pen-y-Pass ar droed Yr Wyddfa, gyda cherbydau'n cael eu clampio hefyd.