Towio ceir yn Eryri yn dilyn traffig penwythnos gŵyl y banc
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu'r gogledd wedi cau ffordd yng Ngwynedd oherwydd "parcio anystyriol" ddydd Gwener y Groglith.
Fe wnaeth y llu rybuddio pobl i barcio'n gyfrifol wrth ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri dros wyliau'r Pasg, gan ddweud y gallai parcio'n anghyfrifol rwystro'r gwasanaethau brys rhag pasio.
Ddydd Gwener roedd lorïau eisoes i'w gweld yn symud ceir o ymyl y ffordd yn ardal maes parcio Pen-y-Pass ar droed Yr Wyddfa, gyda cherbydau'n cael eu clampio hefyd.
Yn y cyfamser, yn y de, roedd ardal mynydd Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog yn brysur gyda cheir wedi parcio ar hyd y ffordd.
Fe gafodd ffordd yr A5 yn ardal Bwthyn Ogwen ei chau brynhawn Gwener.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Oherwydd trafferthion sydd wedi eu hachosi gan barcio anystyriol, mae'r A5 yn ardal Bwthyn Ogwen ar gau dros dro. Mae dargyfeiriadau mewn lle trwy Fetws-y-Coed."
Ddydd Iau fe rannodd awdurdodau rybudd i bobl beidio parcio ar linellau melyn dwbl yn Eryri.
"Dylai pob gyrrwr ddefnyddio meysydd parcio lleol neu gyfleusterau parcio a theithio sydd wedi'u lleoli yn yr ardal," dywedodd Llywodraeth Cymru.
Ar un penwythnos ym mis Gorffennaf 2020 roedd mwy na 500 o geir wedi'u parcio ar hyd un ffordd ger Yr Wyddfa.
Fe gafodd cyfyngiadau eu cyflwyno ym maes parcio Pen-y-pass yn 2022.
'Parciwch yn gyfrifol'
Mewn datganiad fore Gwener, fe rannodd Heddlu Gogledd Cymru neges ar gyfryngau cymdeithasol i deithwyr.
"Os ydych chi'n bwriadu ymweld a Pharc Cenedlaethol Eyryi yn ystod gwyliau'r Pasg, plis parciwch yn gyfrifol ar y ffyrdd gan osgoi atal cerbydau brys."
Mae Cyngor Gwynedd yn annog cerddwyr i ddefnyddio eu gwasanaethau bws, dolen allanol fydd yn gallu eu cludo i lwybrau poblogaidd.
Dywedodd Traffig Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau o "sawl cerbyd wedi parcio" ar hyd ffordd yr A5 o Fethesda i Fetws-y-Coed.
"Mae wardeniaid parcio allan heddiw [ddydd Gwener] a bydd pob cerbyd sydd wedi parcio mewn mannau peryglus yn cael dirwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020