Galw am ddefnyddio'r Gymraeg fel iaith fewnol Ceredigion
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ofni y bydd 'na ostyngiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion, ac yn galw ar y cyngor sir i fynd ati i wella'r sefyllfa drwy ddefnyddio mwy ar yr iaith yn fewnol.
Mae'r gymdeithas wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i bwyso arni i annog Ceredigion i weithredu mwy yn y Gymraeg.
Mae'r cyngor yn mynnu bod nhw wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith.
Adroddiad Craig Duggan i raglen Newyddion S4C.