Pryder am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar y cyngor i ddangos esiampl er mwyn atal gostyngiad yn nifer y siaradwyr

Mae 'na alw ar i Gyngor Ceredigion leddfu unrhyw ddirywiad pellach i'r Gymraeg yn y sir trwy wneud mwy o ddefnydd o'r iaith yn fewnol.

Yng nghyfrifiad 2021 dywedodd 45% o bobl Ceredigion eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Roedd hynny yn ostyngiad o tua 3,300 o siaradwyr Cymraeg, ers i 47% dweud eu bod yn meddu ar y iaith yng nghyfrifiad 2011.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg yn galw arni i annog Cyngor Ceredigion i ddatgan mai'r Gymraeg fydd prif iaith gweinyddu fewnol y sefydliad. 

Mewn ymateb mae Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.

Y Gymraeg a Saesneg "fydd ieithoedd swyddogol y Cyngor a byddant yn mwynhau'r un statws a dilysrwydd yng ngweinyddiaeth a gwaith y Cyngor," meddai'r datganiad.

Ychwanegodd y datganiad bod y cyngor yn gweithio ar Strategaeth Iaith "er mwyn cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y sir".

'Dim camau ymarferol i hybu'r Gymraeg'

Cafodd llythyr rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith ei anfon at Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd y gymdeithas fod y llythyr yn ymateb i "arafwch Cyngor Ceredigion i osod gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg yn nod".

Yn ôl y Gymdeithas, fe wnaeth cyn-arweinydd Cyngor Ceredigion Ellen ap Gwynn ymrwymo i gefnogi'r egwyddor o wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth fewnol.

Ond yn y blynyddoedd ers hynny, medden nhw, "ni chymerwyd unrhyw gamau... ymarferol i symud tuag at drin y Gymraeg fel y brif iaith weinyddol".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tamsin Davies mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y cyngor wedi "aros tua'r un peth ers rhyw ddeng mlynedd"

Dywedodd Tamsin Davies, aelod o ranbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith: "Ni'n gweld cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol a ni'n gweld allfudiad mawr o bobl ifanc yn y sir. 

"Hefyd beth ni'n ei weld o fewn y cyngor yw bod nifer y bobl sy'n medru'r Gymraeg o fewn y gweithlu ddim wedi cynyddu.

"Mae wedi aros tua'r un peth ers rhyw ddeng mlynedd. Felly dy'n ni ddim yn gweld unrhyw ddatblygiad."

'Defnydd mewnol yn effeithio'n bositif'

Roedd y llythyr a anfonwyd yn cyfeirio at 'Cymraeg 2050', strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwr Cymraeg erbyn canol y ganrif. 

Yn ôl y gymdeithas, un o nodau'r strategaeth yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector.

Mae'r llythyr yn dyfynnu rhan o'r strategaeth sy'n dweud bod "rhai cyrff eisoes yn arwain y ffordd... ac yn defnyddio'r Gymraeg fel iaith gweinyddu fewnol gan gynyddu'r galw am sgiliau Cymraeg a chyfleoedd i'w defnyddio."

Cyngor Gwynedd sy'n cael ei ddefnyddio fel yr esiampl o arfer gorau am eu bod wedi bod yn defnyddio'r Gymraeg fel ei brif iaith gweinyddu fewnol ers 1996.

Mae'r llythyr yn dweud bod Cyngor Môn (ers 2017) a Chyngor Sir Gâr (ers 2014) wedi ymrwymo i ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfer gweinyddu mewnol, ond bod "lle i bryderu am eu cynnydd tuag at wireddu'r nod".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ostyngiad o tua 3300 o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion rhwng 2011 a 2021

Yn Sir Gâr, roedd y cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021 yn fwy nag yng Ngheredigion. Yn 2011 roedd 44% o'r sir yn gallu siarad Cymraeg, ond yn 2021 roedd y canran wedi gostwng i 40% - tua 5200 yn llai o siaradwyr Cymraeg.

Roedd y cwymp yn llai ar Ynys Môn, gyda 57% o boblogaeth yr ynys yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 ac 56% yn 2021 - tua 1200 yn llai o siaradwyr Cymraeg. 

Yn ôl Tamsin Davies, mae cynghorau sy'n gwneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn fewnol yn effeithio'n bositif ar sefyllfa'r iaith yn eu siroedd.

Dywedodd: "Mae'n gwneud gwahaniaeth. Ni'n gweld lle mae sefydliadau wedi ymrwymo i ddarparu mwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau iaith fod nifer y bobl sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu.

"Yn achos Gwynedd 'da ni wedi gweld bod y sefyllfa o ran faint o bobl sy'n siarad Cymraeg ddim wedi cwympo cynddrwg â Cheredigion."

'Ymfalchïo ein bod yn ddwyieithog'

Yn ôl y Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Ceredigion, mae'r cyngor yn gweithredu yn ddwyieithog yn fewnol.

"Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud ein gorau. Camau bach yw hi yn aml, ond rwy'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni yn gwbl ddwyieithog yn y ffordd ry'n ni'n gweinyddu fel cyngor sir," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bryan Davies ei fod yn deall pryderon ond bod Cyngor Sir Ceredigion yn "mynd i'r cyfeiriad iawn"

"Rwy'n deall pryderon [Cymdeithas yr Iaith] yn iawn. Mae'r broblem wastad wedi bod lle 'dan ni'n colli ein pobl ifanc i'r dinasoedd mawr.

"O ran strategaeth iaith y cyngor sir, un o'r pethau sy'n digwydd o fis Medi ymlaen yw bod statws pump o'n hysgolion cynradd ni'n newid i fod yn ysgolion Cymraeg. Felly, rwy'n credu bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn."

'Ymrwymo i gefnogi'r iaith Gymraeg'

Mae llythyr Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod canlyniadau'r cyfrifiad "yn gofyn am newidiadau polisi cadarn a phendant i wrthdroi dirywiad presennol yr iaith" yng Ngheredigion.

Yn ôl Tamsin Davies pryder Cymdeithas yr Iaith yw os na fydd newid polisi, "ein bod yn mynd i weld dirywiad pellach gyda llai o bobl yn siarad Cymraeg, lot o bobl ifanc sy'n medru'r iaith yn allfudo, yn symud i ffwrdd i lefydd eraill - Caerdydd, Lloegr, lle bynnag - a bod e jyst yn achosi dirywiad pellach yn y gymdeithas yn gyfan gwbl".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027. Mae'r Strategaeth Gorfforaethol yn nodi amcanion llesiant corfforaethol y cyngor sydd â'r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion Ceredigion.

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, gan sicrhau bod ei wasanaethau a'i weithgareddau yn hyrwyddo ac yn hybu'r defnydd o Gymraeg ledled y sir.

"Mae'r cyngor wedi mabwysiadu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.

"Cymraeg a Saesneg fydd ieithoedd swyddogol y cyngor a byddant yn mwynhau'r un statws a dilysrwydd yng ngweinyddiaeth a gwaith y cyngor.  

"Rydym yn gweithredu yn unol ȃ Safonau'r Gymraeg oddi ar 2016, ac wedi rhoi llawer o bwyslais ar wella'r defnydd o'r Gymraeg wrth ddarparu ein gwasanaethau, gan sicrhau bod ein trigolion yn medru derbyn eu gwasanaeth yn eu dewis iaith. Rydym yn adolygu ein trefnweithiau yn barhaus ac yn cadw i helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar bob lefel.

"Yn ogystal, mae'r cyngor eisoes wedi cymeradwyo Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Ceredigion sydd yn strategaeth 10 mlynedd, 2022-2032, a bydd yn ceisio atgyfnerthu a chryfhau darpariaeth yr iaith Gymraeg a chyrraedd y targed sydd wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

"Nod pwysig yw sicrhau bod disgyblion yn gyfathrebwyr hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 6) pan maent yn symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.

"Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddi i ddatblygu Strategaeth Iaith 2024-2029 ar y cyd gyda'n partneriaid, er mwyn cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y sir.  

"Mae'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gydnabyddiaeth o'r ymdrechion a'r gwaith sydd ei angen i gynnal y Gymraeg ac i ni yn benodol yng Ngheredigion yr ymdrech i gynnal ein cymdeithasau ac ein gweithle'n ddwyieithog."