Dwyn cefn gwlad: 'Hen bryd i bethau wella'
Mae cwpl o ogledd Powys sydd wedi profi tri lladrad ar eu fferm yn dweud bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad.
Cafodd Elen Jones a'i gŵr John, o Lanerfyl, "eu hysgwyd" ar ôl i ladron ddwyn gwerth degau o filoedd o bunnoedd o offer o'u fferm.
Dywedodd Elen Jones wrth raglen Dros Frecwast fod colli peiriannau dros y 10 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn gostus "ofnadwy".
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod troseddau gwledig wedi costio £1.3m yng Nghymru yn 2021.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio gyda heddluoedd ar y mater.