Cwpl wedi colli 'degau o filoedd o bunnoedd' i ladron fferm

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lladrata cefn gwlad: Mae'n hen bryd i bethau wella, meddai Elen Jones

Mae cwpl o ogledd Powys sydd wedi profi tri lladrad ar eu fferm yn dweud bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad.

Cafodd Elen a John Jones o Lanerfyl "eu hysgwyd" ar ôl i ladron ddwyn gwerth degau o filoedd o bunnoedd o offer o'u fferm.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod troseddau gwledig wedi costio £1.3m yng Nghymru yn 2021.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio gyda heddluoedd ar y mater.

Bydd Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad cyntaf Cymru yn cael ei thrafod ddydd Iau.

Mae Elen a'i gŵr, John, yn byw ar fferm ger Llanerfyl yng ngogledd Powys, a'r ddau wedi profi tri lladrad o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

Maen nhw'n dweud iddyn nhw golli degau o filoedd o bunnoedd o offer, gan gynnwys cerbydau Land Rover.

Fe gafon nhw lawer o'u harian yn ôl oherwydd yswiriant, ond bu'n rhaid talu costau adfer a thrwsio.

Dywedon "nad oedd llawer y gallai'r heddlu wneud".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae lladron wedi dwyn o fferm John ac Elen Jones deirgwaith

Dywedodd Elen ei bod yn dal "wedi ei hysgwyd" a'n teimlo'n fregus ar ôl i ladron fod ar eu fferm sy'n cadw ŵyn, gwartheg a'u cŵn.

Ychwanegodd John eu bod wedi gorfod gosod camerâu diogelwch drud a bod y profiadau wedi effeithio ar y ddau yn fawr.

'Straen ar ben popeth arall'

"Dwi'n meddwl ein bod hi'n rhwystredig," dywedod Elen, "'dan ni'n teimlo nad oes digon yn cael ei wneud gan mai'r un hen stori yw hi."

Dywedodd y cwpl ei bod yn broblem i bob fferm yn yr ardal ond mai'r agwedd arferol yw "na all rhyw lawer gael ei wneud".

Mae'n gobeithio y bydd troseddwyr yn cael eu hatal wrth i heddluoedd gydweithio.

"'Dych chi'n clywed am y lladradau yma, ac ry'n ni'n gwybod pa mor emosiynol y gall hi fod ar bawb.

"Mae'n straen ofnadwy ar ben popeth arall. Mae'n frawychus."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm Elen a John bedair milltir o'r pentref agosaf sy'n ei gwneud hi'n anodd i ddal lladron, dywedon

Bydd y gynhadledd ddydd Iau'n gosod strategaeth newydd sy'n cynnwys chwe grŵp blaenoriaeth, gan gynnwys Troseddau Adar, Troseddau Fferm ac Iechyd Meddwl a Cham-drin Domestig.

Y nod yw datblygu rhwydweithiau lle y gall lluoedd rannu arferion ac adnoddau, yn ogystal â datblygu hyfforddiant ar gyfer materion ehangach.

Dywedodd Llywodraeth Cymu y byddai'n helpu gyda chasglu data hefyd a defnyddio technoleg i warchod cymunedau a bywyd gwyllt.

Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru, Rob Taylor, fydd yn arwain y gynhadledd.

"Fe all [troseddau] gael effaith ofnadwy, gan effeithio ar gymunedau gwledig, ffermwyr, bywyd gwyllt yn ogystal â'n treftadaeth," dywedodd.

Fe ychwanegodd mai nod y strategaeth yw "paratoi, atal a gwarchod" rhag y troseddau hynny.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gweldig Cymru, fod hyn yn "gam mawr ymlaen o ran mynd i'r afael â throseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yng Nghymru".

"Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd tuag at ein nod cyffredinol y gallwn ni lwyddo," ychwanegodd.