'Sneb am ddod yn eu ceir lawr hewl ceffyl a chart!'

Mae'r ffermwr Mark Thomas yn un o drigolion ardal yn Sir Gâr sydd wedi cael llond bol ar gyflwr eu ffordd leol, sy'n llawn tyllau.

Bellach mae un o'i gymdogion wedi creu arwydd dychanol i rybuddio teithwyr am y tyllau, ar ôl cwyno'r ofer am gyflwr y ffordd.

Mae'r arwydd Saesneg yn rhybuddio pobl i "dynnu eu dannedd dodi" ac "addasu eu dillad isa'" cyn teithio arni.

Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, mae yna ddiffyg buddsoddiad cenedlaethol mewn cynnal a chadw ffyrdd, sy'n effeithio ar bob awdurdod priffyrdd lleol.