Rhybudd dannedd a bras yn tynnu sylw at gyflwr ffordd yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Gâr wedi creu arwydd dychanol i rybuddio teithwyr am dyllau yn yr heol.
Yn ôl John Burton, o Abergorlech, mae'r gymuned wedi cwyno droeon am gyflwr y ffordd, ond does fawr ddim yn cael ei wneud.
Mae'r arwydd Saesneg yn rhybuddio pobl i "dynnu eu dannedd dodi" ac "addasu eu dillad isa'" cyn teithio arni.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, mae yna ddiffyg buddsoddiad cenedlaethol mewn cynnal a chadw ffyrdd, sy'n effeithio ar bob awdurdod priffyrdd lleol.
Mae John Burton, 68, wedi byw ar heol Abergorlech ers 12 o flynyddoedd.
Dywed fod diffyg cynnal a chadw i'r heol, rhwng Horeb a Brechfa, wedi bod yn broblem ers amser maith.
"Daeth gwaith cynnal a chadw cyson ar yr heol i ben chwe neu saith mlynedd yn ôl oherwydd toriadau," meddai.
"Ers hynny, mae'r heol wedi gwaethygu'n sylweddol."
'Fel hen ddyddiau ceffyl a chart'
Yn ôl Mr Burton, does dim byd 'sylweddol' wedi cael ei wneud i'r heol dros y blynyddoedd.
"Pan ry'n ni'n cwyno i'r cyngor, mae ganddyn nhw bolisi dwi'n credu bod rhaid ymateb o fewn 24 awr.
"Maen nhw'n anfon gweithiwr allan â lori o tar, a bydd e'n llenwi'r tyllau mawr ac wedyn gyrru bant fel petai'r cyfan wedi'i wneud, gan adael tyllau sylweddol mewn mannau arall. Does dim gwir gynnal a chadw."
Mae Mark Thomas, 48, hefyd yn byw yn yr ardal, a'n ategu fod cyflwr yr heolydd yn "warthus".
"Ma' gas gweld nhw," meddai'r ffarmwr.
"Ma' nhw fel yr hen ddyddiau ceffyl a chart. Bydde fe'n gynt i fi fynd i gwaith trwy gaeau pobl, a saffach."
Mae Mr Thomas hefyd yn dweud eu bod wedi hysbysu'r cyngor droeon am sefyllfa'r heol.
"Ni 'di achwyn, dim blwyddyn neu ddwy neu fis neu ddau, ni 'di achwyn ers blynyddoedd mawr," meddai.
"Pan chi'n bwrw pothole, chi'n colli control, chi'n ca'l punctures, blow outs a dyw e ddim yn 'neud dim daioni i springs y ceir... mae e'n warthus."
Dim ymateb i lythyr
Yr wythnos ddiwethaf, fe ysgrifennodd gymdogion heol Abergorlech lythyr ar y cyd at brif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Roedd y llythyr yn datgan eu rhwystredigaeth am safon yr heol ac yn dadlau fod y cyngor yn torri eu rhwymedigaeth gyfreithiol i'w gynnal.
Nid yw'r cyngor wedi ymateb i'r llythyr a arwyddwyd gan 10 o bobl.
Ers hynny, mae John Burton wedi gosod arwydd ar ochr y ffordd.
Er bod yr arwydd yn defnyddio hiwmor, mae'n dweud mai ei bwrpas yw codi ymwybyddiaeth o gyflwr yr heol.
"Roeddwn i wedi gweld rhywbeth tebyg yn rywle arall," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl mai dyma'r ffordd orau i ddenu sylw at gyflwr yr heol, ac nid dim ond ein heol ni, mae nifer o heolydd yn Sir Gaerfyrddin yr un mor ddrwg."
Yn ôl aelod cabinet y cyngor dros drafnidiaeth, y Cynghorydd Edward Thomas, mae prinder buddsoddiad ar gyfer heolydd ar hyd Cymru.
"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gynnal archwiliadau priffyrdd o'n holl ffyrdd i sicrhau eu bod yn ddiogel i ddefnyddwyr... lle mae diffygion diogelwch yn cael eu nodi, maen nhw'n cael eu cyfeirio ar gyfer gwaith atgyweirio yn unol â'n polisïau sy'n cyd-fynd â pholisïau awdurdodau eraill ledled Cymru.
"Mae'r ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin y bydden ni'n hoffi eu hatgyweirio yn bell tu hwnt i'r gyllideb sydd ar gael i ni."
Dywedon eu bod yn asesu risg y ffyrdd ac yn buddsoddi yn y rhai sydd angen eu hatgyweirio fwyaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018