Bryn Terfel: 'Rhai pobl am ddweud pethau negyddol'

Mae Syr Bryn Terfel yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at roi "platfform i Gymru" wrth ganu yn seremoni coroni'r Brenin Charles III.

Bydd y bariton-bas byd enwog yn canu darn newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor, a hynny yn Gymraeg.

"Dyna ydi fy meddylfryd i wastad, gweithio gyda'r Teulu Brenhinol - bod o'n gysylltiedig efo Cymru," meddai mewn cyfweliad â BBC Cymru.

Mae'n cydnabod fodd bynnag bod "rhai pobl yn mynd i ddweud pethau negyddol" am y ffaith ei fod yn cymryd rhan.

"Ond i fi, cerddoriaeth a Chymru yw'r pwysigrwydd," ychwanegodd.