Bryn Terfel: Canu yn y coroni 'i roi platfform i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bryn Terfel: "Mae 'na bwysigrwydd mod i yna yn rhoi platfform i Gymru"

Mae Syr Bryn Terfel yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at roi "platfform i Gymru" wrth ganu yn seremoni coroni'r Brenin Charles III.

Er bod "rhai pobl yn mynd i ddweud pethau negyddol" meddai, dywedodd ei fod yn teimlo ei bod hi'n bwysig "cydweithio gyda'r Teulu Brenhinol".

Bydd y bariton-bas byd enwog yn canu darn newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor, a hynny yn Gymraeg.

"Dyna ydi fy meddylfryd i wastad, gweithio gyda'r Teulu Brenhinol - bod o'n gysylltiedig efo Cymru," meddai mewn cyfweliad â BBC Cymru.

'Rhai am fod yn negyddol'

Wrth siarad am ei berfformiad, dywedodd y byddai'n "blatfform i'r Gymraeg unwaith yn rhagor".

"Allai'm rhoi fy hun ochr yn ochr i Rob [McElhenney] a Ryan [Reynolds] efo beth maen nhw'n 'neud yn Wrecsam, ond mae 'na bwysigrwydd enfawr ganddyn nhw, pan ges i sgwrs efo nhw yn Efrog Newydd, am yr iaith Gymraeg."

Dywedodd y canwr o ogledd Cymru na feddyliodd ddwywaith cyn derbyn y cynnig i ganu yn seremoni coroni'r brenin.

"Oes, mae 'na bwysigrwydd mod i yna yn rhoi platfform i Gymru, a chydweithio efallai gyda'r Teulu Brenhinol," meddai.

Ffynhonnell y llun, BBC Credit

"Allai feddwl falla bydd 'na rywbeth diddorol yn dod gyda William a Kate yn dod i Gymru, gyda'r meddylfryd o gydweithio ar bethau fydd yn dda iawn i'r genedl, gobeithio."

Mynnodd hefyd nad oedd yn poeni'n ormodol am feirniadaeth gan rai ei fod yn cymryd rhan yn y seremoni.

"Wrth gwrs, mae rhai pobl yn mynd i ddweud pethau negyddol," meddai Syr Bryn.

"Ond i fi, cerddoriaeth a Chymru yw'r pwysigrwydd a be' alla i wneud i ategu at rhywbeth, fel llyfr gall y Brenin Charles ei agor ac helpu i roi ffynhonnell eitha' cref sydd yn bwysig i Gymru."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Sir Bryn Terfel yn perfformio

Yn ogystal â Syr Bryn Terfel, fe fydd Take That, Lionel Richie, Katy Perry, Freya Ridings ac Alexis Ffrench ymhlith y perfformwyr yn y seremoni.

Cadarnhaodd Syr Bryn y bydd hefyd yn "canu deuawd gydag Andrea Bocelli, hen ffrind".

Rhai o'r enwau eraill sydd hefyd wedi'u cynnwys yw Paloma Faith, Nicole Scherzinger ac Olly Murs.

"Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod mawr iawn i Brydain, alla i feddwl," meddai Syr Bryn.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn, i fod yna, i ganu'n Gymraeg."