Y foment pan gafodd Y Brenin Charles III ei goroni

Dyma'r foment pan gafodd Y Brenin Charles III ei goroni'n swyddogol, mewn seremoni yn Abaty Westminster.

Roedd tua 2,200 o bobl yn yr abaty ar gyfer y seremoni gan gynnwys gwleidyddion, arweinwyr crefyddol a chynrychiolwyr o wledydd ar draws y byd.

Roedd miloedd o bobl hefyd wedi dod allan i wylio gorymdaith y brenin a'r frenhines o Balas Buckingham.